ceisir ganddo estyn rhyw gymwynas i arall, ac os rhag cywilydd y tueddir ef i'w chaniatau, bydd ei rwgnachrwydd a'i gwynfanau yn gyfryw a'i gwnai yn boenus i dderbyn dim oddiar ei law. Y mae un arall mor ddiystyr o hawliau ei gymydog, fel y mae ei bresenoldeb mewn cymydogaeth yn flinder a gofid cyffredinol trwy yr ardal. Nid un felly ydoedd ein gwrthddrych-byddai efe mor barod bob amser i roddi ag a fyddai i dderbyn; "gwr da sydd gymwynasgar ac yn rhoddi benthyg." Os byddai ar rai o'i gymydogion angen benthyca rhyw beth a fyddai yn ei feddiant, gwyddent y caent ef a chroesaw. Ac yr oedd ei barodrwydd ef i roddi benthyg, yn sicrhau iddo yntau yr unrhyw gymwynas oddiar law ei gymydogion. Yr oedd gan ei gymydogion barch iddo, fel yr oeddynt oll yn barod i ddangos cymwynasgarwch iddo. Ni welid annghydfod cydrhyngddo ef â'i gymydogion. Os byddai i anifeiliaid y naill dori y clawdd terfyn, ac yspeilio y llall o'i borfa,-meddyliau efe braidd mai gwell fuasai treio cau yr adwyau, a chodi y bylchau fel ag i atal ailymweliadau gormesol o'r fath. Yn ystod tymor hir ei arosiad yn Nghefnmaelan, fe ddywedir wrthym, na ddisgynai yr un ymadrodd chwerw dros ei wefusau, ac na wybuwyd am unrhyw deimlad annymunol cydrhyngddo ef a'i gymydogion.
Un o'i gymydogion agosaf ef, ydoedd y Parch. H.W.White, periglor Dolgellau, ac Archddiacon Meirionydd. Yr oedd tir y naill yn terfynu ar eiddo y llall; byddent yn aml yn dyfod i gyffyrddiad a'u gilydd wrth rodio ar hyd eu meusydd, a chaent weithiau ymgom lled hir a dyddorol. Yr oedd gan ein gwrthddrych feddwl lled uchel, a gair go dda i'r Archddiacon, ac yr oedd gan y Periglor feddwl lled barchus, a gair lled dda i'r hen weinidog Ymneillduol. Yr oeddynt eill dau ar y telerau goreu â'u gilydd; ni byddai i'r Archddiacon un amser basio yr "Archdderwydd" ar y ffordd neu ar yr heol, heb gyfarch gwell iddo. Yr oeddynt yn gymydogion da, parchus, a charedig, y naill i'r llall.
Yr oedd cymmeriad cyhoeddus ein gwrthddrych fel gweinidog a phregethwr, yn chwyddo terfynau ei gymydogaeth, ac