Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/190

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dda i lawer, wrando o honynt ar ei gynghor, a chydymffurfio o honynt a'i gyfarwyddyd. Ataliwyd felly lawer o ymrysonau ac ymgyfreithio diachos. Mewn amgylchiadau o gamddealldwriaeth, a diffyg cydwelediad cydrhwng cymydogion, yr oedd ei wasanaeth yn anmhrisiadwy werthfawr. "Yr oedd efe yn genad o ladmerydd, un o fil, i ddangos i'r bobl uniondeb"—yn fath o gyfryngwr rhwng y pleidiau. Safai bob amser dros yr hyn a ystyriai efe yn uniawn; ac nid oedd yn bosibl effeithio arno i wyro barn. Rhodiai yn rhywle tua chanol llwybr barn, heb wyro y naill ochr mwy na'r llall. Ac anaml iawn y methai efe a dwyn y pleidiau i hollol ddeall eu gilydd, ac i heddychu pob teimlad gelynol. Ac felly y gwaredodd efe ei gymydogion allan o fil o brofedigaethau.

Gwasanaethodd ein gwrthddrych gryn lawer fel cyfreithiwr i'r bobl, yn enwedig ei gymydogion. Ryw fodd, y mae yn lled anhawdd gan bobl Meirionydd, a llawer man arall yn Nghymru, wneyd yn rhy hyf ar swyddfa y cyfreithiwr. Gwell ganddynt braidd am bob swyddfa na swyddfa y gyfraith; ac nid rhyfedd ychwaith—cafodd llawer un "losgi ei fysedd " yn bur ddrud yno ganwaith. Ryw sut, y mae yn llawn cystal gan y Cymry am bawb yn hytrach na chyfreithiwr a pherson. Oddiwrth y cyfryw rai y maent yn barod i weddio—"Gwared ni Arglwydd daionus." Yr oedd cymmeriad gweinidogaethol Mr. Jones, serch hyny, yn ddigon o wystl i'r bobl ymddiried ynddo, yn eu pethau amgylchiadol. Nid oedd ar neb ofn na phryder myned i swyddfa yr hen gyfreithiwr anmhroffesedig yn Nghefnmaelan. Y prif wahaniaeth cydrhyngddo ef, a gwyr y quills, ydoedd yn y costau! Gwyddai y bobl o amgylch ogylch Dolgellau, os aent at y cyfreithiwr, yn rhywle, i ysgrifenu eu cytundebau, eu Bills of Exchange, a'u hysgrifrwymau, y buasai raid iddynt dalu iddo am ei amser, ei bapur ei inc, a'i gyfarwyddyd. Ond os aent i Gefnmaelan, gwyddent y gallent gael y cyfan wedi ei wneyd yno, mor ddyogel a sicr, a phe buasai y cyfreithiwr gonestaf yn y wlad wedi ei wneyd, ond yn goron ar ben y cwbl, caent ei wneyd yno yn rhad ac am ddim. Ac yr oedd hyn yn gosod mwy o werth ar ei swyddfa