Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/191

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef na dim! Buasai yn well gan ambell un gerdded ugain milldir, a "phys yn ei esgidiau," a threulio deuddydd o'i amser, er mwyn cael ei ysgrifrwym wedi ei gwneyd yn rhad ac am ddim, na thalu pum' swllt am ei gwneyd gan y cyfreithiwr goreu, yn nrws ei dŷ. Wel! dyma gyfreithiwr o'r iawn ryw! Yn sicr, nid oedd raid i hwn arfer unrhyw ddichell er sicrhau digon o waith yn ei swyddfa. Ond druan o hono! nid oedd ei brofession yn dwyn nemawr elw i'w goffrau! oblegid rhad ac am ddim ydoedd y telerau yn ei swyddfa ef. Ystyriai efe ei hun yn "well paid" os derbyniai—"diolch yn fawr i chwi," gan ei "glients." Ond gan nad beth am y telerau—fe ysgrifenodd efe lawer iawn o gytundebau ac ysgrifrwymau, ac yn neillduol ewyllysiau. Pe na chawsai ond 6s, 8c. am bob ewyllys a wnaeth efe erioed, gallasem feddwl y buasai y swm yn fawr, a mawr iawn! Ni chlywsom erioed i ewyllys na chytundeb a wnaed ganddo ef, fyned yn ddirym! Byddai y cwbl mor safadwy a dyogel, a phe gwneid ef gan y cyfreithiwr goreu, a mwyaf manwl. Ni byddai efe byth yn tywyllu ei gynghor, ei ewyllys, na'i gytundeb âg ymadroddion heb wybodaeth. Ond byddai y cwbl yn oleu, eglur, a dealladwy, a phob amser yn hynod fyr. Ni byddai efe ychwaith yn ymyraeth ag unrhyw achos oddieithr ei fod yn ei ddeall, ac yr oedd hyn yn rheswm dros fod y cwbl a wnelai, yn ddyogel a safadwy.

Yr oedd colli gwasanaeth un a wnelai gymaint i'w gymydogion yn y gwahanol ffyrdd hyn, yn golled gyffredinol.

Y mae llawer o'i hen gymydogion, yn cofio aml gymwynas a wnaeth efe drostynt, ar wahanol adegau, yn hanes eu bywyd. Y mae rhai efallai yn cofio ei gymwynasgarwch iddynt ar adeg eu cychwyniad cyntaf dan bwysau helbulon y byd, a chyfrifoldeb masnachol. Efe a roddai ei air drostynt, ac mewn rhai amgylchiadau ei law hefyd os byddai raid, gan "feichnio dros ei gymydog." Y mae Solomon yn awgrymu mai "dyn heb bwyll a dery ei law, ac a feichnia o flaen ei gyfaill." A diau genym fod y "gwr doeth" yn sylwedydd rhy fanwl ar ansefydlogrwydd pethau yn ei oes, i gyfeiliorni