Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/192

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y peth hwn fel rheol yn oesau dyfodol y byd. Ond efallai fod rhai amgylchiadau os nid yn cyfreithloni hyn yma, y maent yn ei wneyd yn oddefol yn sefyllfa bresenol cymdeithas, ac agweddiad a ffurf nodweddiadol masnachaeth yn ein plith. Gallem ni feddwl i'n gwrthddrych fyned o dan ymrwymiad machniol yn lled bwyllog weithiau; a chydag eithriad neu ddwy, ni chafodd achos i deimlo iddo osod ei hyder ar gam. Ond yr ydym braidd yn meddwl mai prin y dylai neb ymrwymo dros ei gymydog fel rheol, oddieithr fod ganddo fodd i golli swm yr ymrwymiad, heb niweidio ei hun, os byddai raid. Y mae geiriau y doethaf o ddynion ar y mater hwn, yn deilwng o'u mabwysiadu fel rheol gan bob enaid dyn. "Os meichniaist dros dy gymydog, ac os tarewaist dy law, yn llaw y dyeithr," nid oes amser i'w golli cyn ceisio "gwared dy hun fel yr iwrch o law yr heliwr, ac fel aderyn o law yr adarwr." Os dianga un a "ddaliwyd a geiriau ei enau" y mae deg yn syrthio i'r fagl. Ond gan nad beth am hyn, gwr da a chymwynasgar oedd efe.

Nis gallasai nacau estyn cynnorthwy i'w gymydog pan y byddai yn sefyll mewn angen am hyny. Rhaid i ni bellach gymeryd cipolwg arno fel

GWLADWR.

O dan y penawd hwn ni chawn ond crybwyll ychydig eiriau yn unig, am fod ei neillduolion gwladwriaethol ef yn cael eu hegluro o dan bennodau eraill. Gwelir ei olygiadau politicaidd ef ar byngciau eglwysig, o dan benawd "Yr Ymneillduwr," &c.

Yr oedd ein gwrthddrych yn caru ei wlad, ac yn llawenhau yn ei llwyddiant. Pleidiai yn wresog bob symudiad a fyddai ar droed er lles y wlad, a dyrchafiad ei genedl. O ran ei olygiadau politicaidd yr oedd efe yn Rhyddfrydwr trwyadl ac egwyddorol; ond nid eithafol. Credai mewn addysg a gwybodaeth (intelligence) fel safon i ddefnyddio yn briodol ac ymarferol bob rhagorfraint wladol a pholiticaidd. Yr oedd efe yn sylwedydd craffus ar gynydd gwelliantol yr oes, gartref ac