oddi cartref, ac yn llawenhau yn ngherddediad cyflym celfyddyd a gwyddoriaeth rhagddynt, yn meusydd newyddion eu darganfyddiadau.
Yr oedd ei galon yn sirioli wrth weled sefydliadau addysgiant, a manteision gwybodaeth yn amlhau trwy y wlad. Symudai rhagddo yn naturiol a rheolaidd gyda holl ddiwygiadau yr oes. Gwelsom ambell ddyn weithiau, yn neillduol wrth heneiddio, mor araf yn ei symudiadau fel nas medrai ddilyn ei oes—yr oedd efe ar ei hol—yn methu a chanlyn ryw fodd. Ond nid oedd ein gwrthddrych felly. Yr oedd efe yn meddu ar ysbryd i gyd—rhedeg a holl symudiadau gwelliantol yr oes, ac nid oedd dim newydd yn peri syndod iddo.
Pan yr ymwelodd Civil Engineers y Great Western Railway ag ardal Dolgellau, yr oedd efe braidd yn rhyfeddu hefyd, os gwelid rheilffordd dros y Garneddwen, ac os clywid y "ceffyl tân" yn gweryru cydrhwng yr Aran a'r Arenig; ond pan y gwelai efe y Navvies yn rhwygo y tir, ac yn hollti y creigiau, yn darostwng y bryniau, ac yn codi y pantau—yn newid cwrs yr afonydd, ac yn gosod y rails i lawr, yr oedd ei feddwl yn dechreu cymodi â'r ffaith; a datganai ei farn y byddai i luaws o welliantau eraill ddilyn fel canlyniad naturiol agoriad y wlad i'r rheilffordd; tynid allan adnoddau ei hen gymydogaethau—ceid gwell trin ar y tir, a gwell adeiladu ar y tai—byddai golwg ragorach ar y wlad, a'i thrigolion yn helaethach eu cysuron, ac y byddai i welliantau mawrion a phwysig gymeryd lle yn nghorff yr ugain mlynedd dyfodol, er na byddai efe yn fyw i'w gweled ei hun. Ond etto, yr oedd ei enaid yn lloni wrth ddarllen arwyddion yr amserau, a chanfod rhyfeddodau celfyddyd yn gweithio yn mhob cyfeiriad.
Fel gwladwr, yr oedd ganddo ddigon o wroldeb moesol i ddatgan ei farn a dangos ei ochr, yn ddigel, ar wahanol adegau o gynhyrfiadau politicaidd a gwladol. Ni phetrusai efe arddel ei egwyddorion, a sefyll yn ddiysgog dros yr hyn a gredai. Safai bob amser yn selog dros ei ochr, a phleidiai yn ddifloesgni egwyddorion "barn a chyfiawnder mewn gwlad." Croesawai bob diwygiad politicaidd, a phob cynyg at wellhau