Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/194

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a pherffeithio deddfau y wladwriaeth; a gellid ymddibynu arno bob amser, fel mater wrth gwrs, pa ochr a gymerai, ac i ba blaid y perthynai. Ac etto, er ei fod yn selog dros lwyddiant ei egwyddorion, ni enynai llid a digter ei wrthwynebwyr mwyaf penderfynol ddim tuag ato.

Yr oedd efe bob amser yn ymwybodol o'i hawliau fel deiliad o lywodraeth ei wlad. Nid ymostyngai efe yn wasaidd i oddef gormes a thrais ar ei iawnderau. Mynai ei hun, ac yr oedd efe am i bawb eraill fynu eu hawliau gwladol yn mhob dim. Y mae dynion o uwch sefyllfa yn aml, yn cymeryd mantais ar eu sefyllfa, fel ag i osod beichiau ar gefn eraill o is—sefyllfa, na byddai raid iddynt yn gyfreithlawn eu dwyn. Yr ydym yn cofio clywed ein gwrthddrych yn adrodd amgylchiad neu ddau ag sydd yn profi nad oedd efe yn un a gymerai dreisio o neb ar ei iawnderau. Yr oedd y ffordd fawr, ffordd Treddegwm o Ddolgellau i Lanfachreth yn terfynu ar dir Cefnmaelan; yr oedd hi yn ffordd i Nannau hefyd, palas yr hen Syr Robert Williams Vaughan gynt; yr oedd yr hen foneddwr hwnw yn fawr ei sel am gael y ffordd mewn trefn dda, hwyrach fod tipyn o hunanles ganddo wrth wraidd ei sel. Wedi gauaf lled rewog, ac i'r haul ddadmer y rhew a'i feirioli yn y gwanwyn, fe syrthiodd darn lled fawr o'r ffordd a'r clawdd yn garnedd i geunant oedd o dan Ꭹ ffordd yn nghae Cefnmaelan, yr hyn pan welodd Syr Robert, a fu yn ddigllawn iawn am na buasai i Mr. Jones godi yr adwy, a chau y bwlch i fyny. Anfonodd yr hen foneddwr o Nannau genadwri lled awdurdodol i Gefnmaelan i godi yr adwy yn y ffordd—ond ei adael ar lawr yr oedd efe er y cwbl. O'r diwedd, fe gyfarfu Syr Robert âg ef ei hun, a dechreuodd fygwth yn holl urddas ei ddigllonedd am na chodasaai efe y ffordd a'r clawdd. "Wel" ebe yntau, "yr wyf fi braidd yn meddwl Syr Robert, mai yr Overseer a berthyn i'r ffordd sydd i'w gwella, y mae yn ddigon i mi dalu treth tuag at ei gwella." Ond parhau i ruo a chwrnu yn greulawn yr oedd y "llew" o Nannau, ac yntau yn synu braidd at anwybodaeth a dwlni yr hen Justice, ac yn gallu hebgor ambell chwerthiniad lled uchel am ben cynddeiriawgrwydd Marchog