Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/195

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mawr Meirion, am y gwyddai mai Overseer y ffordd oedd i gyfanu y bwlch a chodi y clawdd.

Ond ni arosodd y Barwnig ar hyn, anfonodd am ei gyfreithiwr, a gorchymynodd hwnw i orfodi Mr. Jones i godi y ffordd a syrthiasai. Aeth hwnw at Mr. Jones, a dywedodd wrtho fod yn rhaid iddo godi y ffordd, ond dangosodd Mr. Jones iddo mai nid efe oedd i'w chodi, ond yr Overseer. Gwelodd y cyfreithiwr, mai efe oedd yn iawn, ac anfonodd at yr hen Syr Robert i ddyweyd, mai Mr. Jones oedd yn iawn, nas gallesid ei orfodi ef i'w chodi, ac felly gorfu ar yr hen Justice anffaeledig (?) roddi i fyny y game i Mr. Jones; ac anfon at yr Overseer i'w gwella. Ond er cymaint Syr, oedd yr hen Syr Robert, yr oedd arno braidd gywilydd cyfarfod Mr. Jones wedi hyny, shy iawn yr ymddangosai at ei hen gymydog ar ol hyn. Nid oedd Mr. Jones yn wr a gymerai ei ddychrynu gan bob gwrach. Fel yr oedd efe yn dychwelyd adref o gyfarfod pregethu a gynelid yn yr Abermaw, er's blynyddau lawer yn ol, yr oedd efe yn marchogaeth ei "gaseg las," ac un o'i blant wrth ei ysgil, yn fachgen tuag wyth neu ddeg oed, clywai o'i ol swn rhyw Jehu yn gyru mewn modd cyffrous a dychrynadwy yn nghylch haner y ffordd i Ddolgellau, a phasiwyd ef gan y gyrwr o'i ol, yr hwn oedd mewn cerbyd, arhosodd wedi hyny ar y ffordd, gan siarad baldordd ffol, ynfyd-ddyn meddw; a gadawodd i'r marchogwr ei basio am gryn ffordd; deallodd ac adnabyddodd y ddau eu gilydd. Yr oedd y cerbydwr yn wr lled fawr-Cadben tad yr hwn oedd yn gyfaill mawr i Mr. Jones, ac a roddodd er ei fwyn ef swm o arian tuag at un o'r achosion o dan ei ofal ef. Ac yr oedd y mab yn teimlo fod ei dad wedi bod, efallai, yn rhy haelionus, ac am ddial haelioni ei dad ar yr hen weinidog, clywai Mr. Jones y Jehu hwn yn dyfod gan fflangellu o'i ol drachefn, ac wrth ei basio tarawodd olwyn ei gerbyd y "gaseg las " nes y syrthiodd ar ei hochr ar y ffordd fawr, ac ar goes Mr. Jones, ond diangodd y bachgen yn wyrthiol ryw ffordd heb friwo. Codasant drachefn, a theithiasant tuag adref. Arhosodd y Cadben iddynt godi, a gollyngai allan regfeydd! "Wel" ebe Mr.