Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/197

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bydd ei enw a'i goffadwriaeth yn barchus fel penteulu, cymydog, a gwladwr dros genedlaethau yn Meirionydd.

Yn nghynnwysiad y bennod hon yn nhudalen 161, darllener "Syr Robert Vaughan," yn lle "Ty Robert Vaughan."

PENNOD XVI.

CYFNEWIDIADAU MAWRION YN YSTOD EI OES!

Cymanfa Bangor 1825-Cydgyfarfyddiad amryw ragoriaethau-Synwyr cyffredin-Dywediad y Chief Justice Jervis-Efrydwyr Wrexham yn rhoi tôn i weinidogaeth y dyddiau hyny-Cyhuddo o gyfeiliornadau peryglus y Dysgedydd Gwleidyddiaeth-" Ysbryd nerth, a chariad, a phwyll"-Syniadau y wlad yn cyfnewid Yn pregethu yn Porthmadog-Hen feddyg profiadol yn adnabod doluriau y galon a'r feddyginiaeth ar ei chyfer.

Y mae fy adgof pellaf am y Parch. Cadwaladr Jones yn cyrhaedd hyd gymanfa Bangor, yr hon a gynaliwyd yn y flwyddyn 1825. Yr oedd amryw amgylchiadau yn cydgyfarfod yn y gymanfa hono i'w gwneyd yn hynod yn mysg cymanfaoedd. Yr oedd y pregethwyr ar fath o stage, ar dalcen yr hen Market Hall, tua phymtheg troedfedd uwchlaw y gynnulleidfa, neu yn hytrach y tir ar ba un y disgwylid i'r bobl ymgynnull. Yr oedd yn gwlawio yn ddwys a'r bobl o dan y shambles ar bob tu. Tair pregeth bob oedfa, ac un o honynt yn Saesneg. Nid oes llawer o'r manylion yn aros ar fy meddwl, ond yr wyf yn cofio yn dda mai yr unig bregethwr a gafodd hwyl oedd y Parch. T. Lewis, Pwllheli, wedi hyny o Lanfairmuallt. Nid wyf yn meddwl fod hanes y gymanfa hono wedi ei gyhoeddi, ond y mae yr ychydig sydd yn ei chofio, yn sicr o fod o'r un farn a minnau am dani. Yr oedd Mr. Jones, Dolgellau, yn pregethu am ddau o'r gloch. Ymddangosai i mi yn ŵr hawddgar, boneddigaidd, a'i wallt yn tueddu at fod yn felyn, ac yn llaes. Yr oedd yn bell oddiwrth yr hyn a gyfrifid genyf fi y pryd hwnw yn bregethwr da. Yr oeddwn yn dychwelyd o'r oedfa'r prydnawn yn nghwmni J. Humphreys, Hirael; Richard Jones, Tycrwn, a'm tad. Yr oeddwn i y pryd hwnw yn cyfrif cael gwrando hen bobl yn ymddyddan am y bregeth yn