un o'r rhagorfreintiau mwyaf. "Doeddwn i yn cael dim yn yr ola yna," ebe J. Humphreys. "O" ebe nhad, "dyn call iawn ydi hwna John, efe sy'n ysgrifenu y Dysgedydd." "Beth ydi hwnw?" "O y llyfr misol sydd gan gorff y Senters." "Pregeth dda iawn" ebe Richard Jones, "sylweddol a diwaste. Pethau da." Goddefa y darllenydd i mi ymdroi munyd i ddyweyd fod pwysigrwydd neillduol, ac effeithioldeb anrhaethadwy yn yr hyn a ddywedir yn nghlyw plant wrth ddychwelyd o oedfaon. Holed pob darllenydd hanes ei feddwl ei hun, ac astudied yr effaith a gynyrchwyd gan y fath ymddyddanion yn ffurfiad ei gymmeriad.
Yn mhen tua phymtheg mlynedd ar ol hyny, y daethum i gydnabyddiaeth bersonol o Mr. Jones. Er fy mod yn ystod y blynyddau hyny yn gydnabyddus a'i enw, ac yn cyflwyno i'w ofal fel golygydd, ambell ddarn o ryddiaeth neu rigymwaith. Gwnaeth y caredigrwydd a mi o gyhoeddi rhai o honynt, a gwnaeth garedigrwydd mwy wrth beidio cyhoeddi eraill, (er fy mod i yn mhell oddiwrth gredu hyny ar y pryd).
Ar ol hir gydnabyddiaeth ag ef am yr hanner diweddaf o'i oes, yr wyf yn teimlo hyfrydwch i dystiolaethu na chefais ef mewn dim islaw y ganmoliaeth a roddid iddo. Gwnaeth argraff ar fy meddwl i, na ddilewyd gan un amgylchiad. Mi a wn drwy brofiad pa beth oedd methu cydweled ag ef ar ambell beth, ond nis gwn am gyfnewidiad yn fy mharch iddo na'm hedmygedd o hono.
Ni raid i mi ddyweyd fod Mr. Jones yn ddyn o bwysigrwydd yn cael ei gyfrif yn fawr yn mysg ei frodyr. Ond pe gwesgid ataf y gofyniad—pa beth neillduol ynddo oedd yn fawr, ni fyddai yn hawdd cael gafael mewn atebiad priodol. Yr oedd yn bregethwr da, sylweddol yn efengylaidd yn nhôn ei weinidogaeth, ond yr oedd amryw yn mysg ei gyfoedion yn rhagori arno fel pregethwr. Yr oedd yn ysgrifenydd destlus a dealladwy, ond yn amddifad o rym, ac ystwythder rhai o'i frodyr. Yr oedd yn dduweinydd goleuedig yn graff i ragweled gwrthddadleuon, ac o ganlyniad yn un peryglus i fyned i ddadl ag ef. Ond yr oedd yn mysg ei frodyr rai yn deall trefn