Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/199

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iechydwriaeth llawn cystal ag yntau. Yr oedd ynddo ef gydgyfarfyddiad hapus o amryw ragoriaethau, ond addefir mai y peth a'i hynododd yn mysg ei frodyr oedd nerth ei synwyr cyffredin, a'i bwyll anorchfygol. Nis gall gweinidog lwyddo heb synwyr cyffredin, ac nis gall beidio llwyddo os bydd hwnw ganddo. Yr oedd yn Mr. Jones "tu hwnt i'w gyfeillion;" ac yr oedd ei "arafwch yn hysbys i bob dyn" a'i hadwaenai. Yr wyf yn cofio clywed y diweddar Mr. Lewis Lloyd, o Danybwlch, yn adrodd fwy nag unwaith yr hyn a ddywedai y bargyfreithiwr enwog, Mr. Jervis, (wedi hyny y Lord Chief Justice) am dano. Haerai y gwr hwnw na welodd erioed ei gyffelyb mewn Witness Box. Y mae rhai heddyw yn fyw, oeddynt yn bresenol yn llys Dolgellau ar adeg prawf hirgofiedig, pan y safai Mr. Jones i ddwyn tystiolaeth o blaid y cyhuddiedig. Cofir am dano yn tynu y spectol o'i logell, yn glanhau y gwydrau ac yn eu dal rhyngddo a'r goleu yn bwyllog, tra yr oedd y llys yn orlawn o bobl, ac o deimlad angerddol. Yr oedd Mr. Jervis yn arwain yr erlyniad, a gwnaethai bob ymdrech ac ystryw i gyffroi tymer yr Hen Olygydd, ond yn ofer y chwareuodd ei holl gastiau. Cyfaddefodd lawer gwaith ar ol hyny, mai yr unig dyst a'i llwyr orchfygodd oedd, "that old Cadwaladr Jones, of Dolgelley." Aeth Mr. Jones drwy yr holl orchwyl "braidd" mor ddigyffro a phe buasai yn darllen pennod yn yr addoliad teuluol, neu yn dyweyd gair yn y gyfeillach eglwysig. Nid oedd un dyn y buasai genyf fwy o ymddiriedaeth yn ei gyngor nag ef. Gwnaeth lawer o'i gymydogion yn Meirionydd yn ddyledus iddo am gynghorion a fuont fel drain o amgylch genau llawer pwll, i'w hatal rhag syrthio iddo.

Cyn cychwyniad y Dysgedydd, teimlai gweinidogion a lleygwyr penaf yr enwad cynnulleidfaol, fod yr amser wedi dyfod iddynt hwy gael cyhoeddiad misol at eu gwasanaeth fel plaid. Yr oeddynt dan anfantais i amddiffyn eu hunain yn ngwyneb camddarluniadau, a phleidgarwch cyhoeddiadau eraill. Yr oedd efrydwyr Wrexham yn rhoddi tôn neillduol i weinidogaeth y cyfnod, a chyhuddid hwynt o ledaenu gyfeiliornadau. Am bregethu yr hyn a arddelent fel Calfiniaeth gymedrol, neu