Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/201

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb ryw gyfnewidiad. Gollyngodd y llyw i ddwylaw eraill a gyfrifid yn debyg o adnewyddu nerth y cyhoeddiad. Daliodd yr Hen Olygydd heb golli ei foneddigeiddrwydd. Yr oedd yn ddiau yn teimlo wrth gael ei wasgu gan amgylchiadau i gymeryd y cam pwysig hwnw. Yr oedd ei gyfeillion yn teimlo drosto, ond nid oedd un o honynt yn teimlo yn ddwysach na'r brodyr a ddewiswyd i lenwi ei le.

Gwelodd Mr. Jones gyfnewidiad dirfawr yn syniadau y wlad ar y pynciau a goleddid ganddo ef mor eiddigus. Llawenhai wrth glywed tôn y weinidogaeth yn Nghymru yn nesau at yr hyn a gyfrifid ganddo ef yn wirionedd. Gwelodd y byd crefyddol yn syrthio mewn cariad ag un o'i hoff byngciau, set "Hawl a chymhwysder pob dyn i farnu drosto ei hun ar byngciau crefyddol." Bu fyw i weled y Test and Corporation Acts yn cael eu dileu, a'r capelau yn cael eu trwyddedu i weinyddu priodasau. Gwelodd addysg athrofaol yn dyfod i fri cyffredinol. Adlonwyd ei ysbryd wrth ganfod Ymneillduwyr o bob enwad yn dyfod i deimlo eu hawliau fel dinasyddion, ac yn ymateb cydwybod wrth ddefnyddio eu pleidleisiau. Ni lefarodd neb yn fwy eglur ar bwnge y Dreth Eglwys na Mr. Jones, ac nid bychan oedd ei lawenydd pan welodd ei dilead. Cyn i angau gau ei lygaid, gwelodd ddechreuad y diwedd, sef Dadwaddoliad yr Eglwys yn yr Iwerddon yn dyfod ger bron senedd y deyrnas, dan nawdd un o'r Eglwyswyr mwyaf galluog a chydwybodol a fagodd Brydain erioed. Pell oddiwrthyf a fyddo haeru, nac yn wir awgrymu mai y Dysgedydd a'i Olygydd a achosasant y chwildroadau hyn yn marn ac ymddygiadau y genedl, ond nis gallwn beidio cyfeirio y darllenydd at y mwynhad a deimlai, ac a amlygai yr hen wron o Gefnmaelan, wrth adgofio y rhan a gymerodd yn nygiad oddiamgylch y trawsffurfiadau pwysig hyn. Buasai oes o fethiant yn croesi ei obeithion, er na fuasai yn terfysgu ei gydwybod. Ond nid methiant a fu. Nid iddo ef y mae yr anrhydedd o symud y byd, ond iddo ef yr oedd y mwynhad o deimlo ei fod yn ddarn, nid amhwysig, o'r peiriant mawr a wnaeth y fath waith yn Nghymru.