Yr oedd Mr. Jones, er ei arafwch diarebol, mewn llawer o bethau o flaen ei oes. Ac ni bu llygad dyn erioed yn darllen arwyddion yr amserau gyda mwy o ddyddordeb nag a deimlai ef. Yr oedd treulio prydnawn yn ei gwmni fel yn ein dwyn wyneb yn wyneb a'r llanw ddangosydd, tide mark a osodwyd i ddynodi cyfodiad y dwfr. Nid oedd nemawr orchwyl, yn ymddangos yn fwy boddhaol iddo, na darlunio yr egwyddorion a gyfrifai ef yn ysgrythyrol, yn myned rhagddynt yn gorchfygu, ac i orchfygu. Ni bu hen filwr erioed yn adrodd hanes y brwydrau y daeth trwyddynt gyda mwy o flas nag a brofai efe, wrth adrodd helyntion y dyddiau gynt.
Yr oedd natur wedi gwneyd Cadwaladr Jones yn wr bonheddig. Ni allasai beidio a bod felly. Nid oedd raid iddo ef astudio deddflyfr moes, ffurfiau, nac arddefodau cymdeithasol. Buasai ychydig o ras yn cyrhaedd yn mhell ar y fath gyfansoddiad. Yr oedd effaith ei foneddigeiddrwydd, a'i dynerwch, i'w ganfod ar eraill o'i amgylch, a thrwy y dylanwad hwnw "y mae efe wedi marw yn llefaru etto."
Bum yn gwrando yr Hen Olygydd yn pregethu lawer gwaith yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddaf o'i oes. Yr oedd rhywbeth dymunol iawn yn ei bregethau yn wastad. Ni etholwyd ef, mwy na minau, i bregethu i dyrfa fawr yn yr awyr agored. Mewn capel heb fod yn fawr, nac yn rhy lawn, yr ymddangosai i fwyaf o fantais. Ni welais arwydd arno erioed yn, nac allan o'r pulpud, ei fod yn meddwl yn uwch o'r naill na'r llall o'i bregethau. Yr oedd yn berffaith lân oddiwrth bob peth tebyg i arddangosiad. Pan gyfodai i gymeryd ei destyn, ni ofynai y gwrandawr iddo ei hun nac i neb arall, "beth a wna efe o honi hi?" ond yn hytrach, "pa beth sydd gan yr Arglwydd i'w ddyweyd wrthym heddyw drwy yr hen wr?" Bu yn pregethu yn ein capel ni, tua chwe' blynedd yn ol, ar noson waith, ac yr oeddwn yn meddwl y gallai y tro hwnw fod yn gyfleustra diweddaf i mi ei glywed. Testyn ei bregeth oedd y Prynedigaeth yn Nghrist Iesu, &c. Creffais ar bob brawddeg, dilynais holl symudiadau ei feddwl, gyda hyny o graffder a allwn i ddefnyddio, a daethum i'r