Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/203

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

penderfyniad na chlywais nemawr bregeth well yn fy oes, i ateb holiadau difrifol mynwes pechadur argyhoeddedig. Dim yn dwyn delw crachfeddyg yn puffio ei goeg—gyfaredd, ond hen feddyg boneddigaidd, tyner, profiadol, a diymffrost, yn adnabod doluriau y galon a'r unig feddyginiaeth iddi. Heb "odidowgrwydd ymadrodd" yr oedd yn dwyn yr Iechydwriaeth a'r pechadur wyneb yn wyneb a'u gilydd.

Yr wyf yn teimlo tipyn o anfantais wrth ysgrifenu gair byr, ar gais teulu ein hen dad ymadawedig. Y mae arnaf ofn ail adrodd yr hyn a ddywedwyd gan eraill, a thrwy hyny gymeryd lle yr argraffydd, ac amser y darllenydd yn ofer. Y mae yn dda genyf gael cyfleustra i drosglwyddo i'r wasg yr ychydig adgofion hyn. Yr wyf yn teimlo hyder cryf y cawn gofiant da o'r Hen Olygydd, ac yr ydwyf yn ddiolchgar i'n brawd Mr. Thomas, am ymaflyd ar unwaith heb oedi yn y gwaith a osodwyd iddo.

PENNOD XVII

OLNODION

License i bregethu yn y Bala 1807—Yn gadael Wrexham—Testynau ei bregethau yn Llanuwchllyn—John Jones, Ramoth—Mab tangnefeddterfysgoedd Llanuwchllyn—Y Dr. Jones, o Fangor, &c.—Astudio gwleidyddiaeth—O dan y gerydd—Ymwylltio a chynhyrfu—Awdurdod cymanfa neu gwrdd chwarterol—Ymweliad brawd—Ei gael yn gosod trap i ddal twrch daear—Yn pregethu—Ei nodiant ar y diweddar Barch. John Elias—Cariad brawdol yn Nolgellau, &c., &c.—Pregeth ar swydd Diaconiaid,

Crybwyllwyd fod Mr. Jones wedi cael ei drwyddedu i bregethu yn y Bala mewn llys agored yn y flwyddyn 1807: ond ni roddasom y Dyst—ysgrif hono yn yr hanes. Wedi hyny, wrth ymddyddan a chyfeillion, barnasom y byddai yn foddhaol gan rai gael ei gweled. Dyma hi

Merioneth to wit} This is to certify that Cadwaladr Jones, of Deildre, in the Parish of Llanuwchllyn, in the said County, Did on the day of the Date hereof in open court before Richard Watkin, Price, Esquire, Rice Anwyl, John Lloyd, and Thomas Davies, Clerks, four of his Majesty's Justices