Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/204

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

of the Peace for the said County, take and subscribe the oaths and declarations required in an Act passed in the nineteenth year of the Reign of his present Majesty for the further Relief of Protestant Dissenting Ministers and Schoolmasters. As Witness my hand at Bala, in the said County, the seventeenth day of July, in the year of our Lord one thousand eight hundred and seven (1807). Trinity Qua. Sess. 1807. ANWYL, CLERK OF THE PEACE.

G. Griffith, D: C: Peace.

Ysgrifenwyd Tyst-ysgrif urddiad Mr. Jones ar gefn un y llys yn y Bala; ac felly yr oedd y ddwy ar yr un croen.

Wrth chwilio yn mysg papurau ein hybarch frawd, cawsom hyd i'r nodiad canlynol:—"Gwrecsam, Hydref 27, 1810. Os byddaf yn pregethu yn Llanuwchllyn y Sabboth cyntaf wedi i mi ymadael ag yma, yr wyf yn bwriadu pregethu ar y testynau canlynol:—1. Ezec. xxxiii. 11, 'Canys, tŷ Israel, paham y byddwch feirw?' 2. 2 Tim. iv. 8, 'O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i'w chadw i mi," &c., &c. 3. Heb. x. 38, 'Eithr o thyn neb yn ol, nid yw fy enaid yn ymfoddloni ynddo.' Y mae genyf ddwy bregeth ar 2 Tim. iv. 8." Ni allasom gael allan ai yn Llanuwchllyn y pregethodd y Sabboth cyntaf wedi gadael Gwrecsam, ond y mae hyny yn dra thebygol; ac os felly, dyna y testynau am y Sul hwnw.

Crybwyllwyd o'r blaen, debygem, fod y diwygiwr Sandemanaidd, John Richard Jones, o Ramoth, yr hwn a ymneillduodd oddiwrth y Bedyddwyr yn Nghymru, ac a ymunodd mewn enw, o leiaf, a'r Bedyddwyr yn Scotland, yn berthynas agos i Mr. Jones: ond gan fod Mr. J. R. Jones yn hynach, o yn agos i ddeunaw mlynedd na'i gâr o Ddolgellau, ac wedi ymsefydlu yn Ramoth, pan nad oedd gwrthddrych y cofiant hwn ond oddeutu chwe' mlwydd oed, a bod eu cartrefi yn mhell oddiwrth eu gilydd, nid oedd ond ychydig o gydnabyddiaeth, a llai o gyfeillgarwch rhwng y naill a'r llall. Pan oedd Mr. Jones yn byw yn ymyl y capel yn Nolgellau, daeth Mr. J. R. Jones ato, drwy wahoddiad, i gael boreufwyd un diwrnod. Yr oedd y gwahoddwr wedi meddwl cael hamdden i ymddydd-