Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/205

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

an a'r diwygiwr o Ramoth ar rai o byngciau ei gyfundraeth Dduwinyddol: ond nis cafodd. Yr oedd Mr. J. R. Jones yn berffaith siriol, a gofynodd fendith ar yr ymborth yn hollol ddirodres; ond wedi darfod ymborthi ymadawodd ar frys cyn yr addoliad teuluaidd; ac felly ni chafwyd cyfle i ymdrin â "ffydd noeth yn y gwirionedd noeth," na dim o neillduolion golygiadau y Pendiwygiwr, ac ni chafodd Mr. Jones gyfleusdra felly yn y dyfodol chwaith.

"Mab tangnefedd" oedd ein hen gyfaill bob amser. Pan y deuai ar ei dro i ymweled a'i rieni i ardal Llanuwchllyn yn adeg y terfysgoedd eglwysig a fuont yno, ymdrechai yn galed, trwy lawer o resymau, ddarbwyllo ei hen gymydogion, a rhwystro iddynt ruthro i'r eithafion yr aethant iddynt y pryd hwnw; ac er iddo fethu yn ei amcan, nid oedd ei ymdrechion yn llai canmoladwy.

Clywsom ef yn ymresymu yn ddifrifol a'r diweddar Dr. Arthur Jones, o Fangor, gyda golwg ar ryw amgylchiadau annedwydd a therfysglyd oedd yn mysg rhai o'r gweinidogion â rhai o'r eglwysi Annibynol yn sir Gaernarfon amser maith yn ol, ac annogai ef yn y modd mwyaf cyfeillgar a brawdol, i wneuthur yr oll a allai yn mhob modd, i adsefydlu heddwch yn mhlith y terfysgwyr rhyfelgar. Gwyddom ei fod wedi gwneyd ymdrechion cyffelyb yn ardal Talybont, swydd Aberteifi.

Ni rusai chwaith ymladd brwydr pan fyddai galwad am hyny. Bu ffrwgwd ddifrifol rhyngddo a Iorthryn Gwynedd, ac un arall rhyngddo a'r diweddar Robert Fairclough; ond ni fyddai yn rhyw ryfyg mawr i neb ddywedyd ei fod ef yn llawer nes i'w le nag yr un o'r ddau. Crybwyllwyd mewn pennod flaenorol, y mynai y diweddar Syr Robert Vaughan, o Nannau, ei orfodi i gyfodi clawdd ffordd oedd yn myned drwy ran o dir Cefnmaelan. Perthynai y ffordd i'r gymydogaeth. Mae ger ein bron lythyr a ysgrifenodd at y Marchog ar yr amgylchiad hwnw; dywed ynddo: "My objection arisest from a principle of Justice. I consider it very hard and unjust that I should be compelled to do a thing which should