Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/206

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

certainly be done by the Township." Gwelsom o'r blaen mai Mr. Jones orchfygodd yn y pen draw.

Yr oedd Mr. Jones wedi astudio gwleidyddiaeth yn rhagorol, ac yn hysbys iawn o symudiadau ein pleidiau gwladyddol, ac yn Rhyddfrydwr trwyadl. Anaml y gwelwyd un o'i sefyllfa ef yn deall cyfreithiau y wlad yn well, a byddai yn oedfaon llysoedd barn Dolgellau mor reolaidd ag y byddai yn oedfaon ei gyfarfod blynyddol ei hunan. Yr oedd am gael gweled peiriant y gyfraith wladol yn gweithio, a mynai ddeall ei holl symudiadau.

Prin y gallai dyn fel efe, oedd yn trin amgylchiadau bydol ar hyd ei oes, ac yn ymwneyd â phethau arianol achos crefydd i raddau, ddiangc heb i rywrai gael lle, yn ol eu tybiau hwy, i fod yn anfoddlon i rai pethau a wneid ganddo, ac yn ddrwg dybus o'i amcanion ambell dro, yn enwedig mewn oes mor hir a'r eiddo ef. Er hyny, nid hir y byddai y cymylau heb chwalu, a'i uniondeb yn cael ei amlygu, a'i farn yn dyfod allan i oleuni, a phawb o'r cyfryw yn gweled mai gwr cyfiawn a gonest oedd Cadwaladr Jones. Profodd ei hun felly yn ei amgylchiadau teuluaidd, ac yn ei gysylltiad a'r arian a adawsid iddo ef a'i gydweinidog yn Llanelltyd, a phethau eraill yr un modd.

Yn ei gysylltiad a rhyw bethau a gyhoeddodd yn y Dysgedydd, a phethau eraill a wrthododd gyhoeddi o bryd i bryd, dygir ef weithiau o dan gerydd, a churid arno yn ddiarbed. Gwelsom draethodyn yn ei gyhuddo hyd yn oed'o "ymwylltio a chynhyrfu," y pethau annheby caf iddo ef byth gael ei faglu ganddynt: ond yr oedd yr Hen Olygydd wedi ei ddarllen drosto yn FANWL, a gwneyd ei nodiadau ar ymylon y dalenau, ac wedi ysgrifenu ar y ddalen gyntaf ar ol y title, yn ei gyflawn bwyll, "With 28 lies, known to me. C. J."

Ni chydnabyddai mewn un modd fod gan gyfarfod chwarterol neu gymanfa yn mysg yr Annibynwyr hawl deg i lunio cyfreithiau i reoli symudiadau pregethwyr teithiol, a phethau cyffelyb. Credai ef mai fel personau unigol, ac nid fel cynrychiolwyr o gwbl y mae gweinidogion a diaconiaid yn cyfar-