fod a'u gilydd yn y fath gynulliadau; ac nad yw eu penderfyniadau yn meddu unrhyw awdurdod, ond mor bell ag y cadarnheir hwy gan yr eglwysi. Da genym weled fod amryw yn dyfod i'r un golygiad, ac yn condemnio penderfyniadau cymanfaol fel deddfau awdurdodol: ond y buasem yn derbyn eu syniadau presenol gyda mwy o hyfrydwch pe buasent yn dywedyd wrthym pa fodd y cymerodd cyfnewidiad mor bwysig le yn eu golygiadau.
Wedi cael ei ddwyn i fyny o'i febyd yn amaethwr, nid rhyfedd fod gan Mr. Jones gryn hyfrydwch ar hyd ei oes yn y ddaear a'i chynyrchion; ac wrth dir llafur yr oedd ef a'i deulu yn byw. Rhoddai dro ar hyd ei feusydd yn fynych i gael gweled agwedd y tir a'i gnydau. Un boreu teg yn ngwanwyn 1841, daeth brawd i'w dŷ, ac wedi clywed gan Mrs. Jones ei fod wedi myned i roi tro i'r caeau, aeth o gae i gae i chwilio am dano. O'r diwedd, cafodd hyd iddo ar ei lin yn gosod magl i ddal twrch daear, a Geiriadur Mr. Jones, Pen-y-bont-arogwy, ar lawr yn ei ymyl. Wedi llongyfarch y brawd dyeithr, aeth yn mlaen a'i orchwyl; ond dyrysodd y gwaith i gyd pan yr oedd ef bron a'i orphen, a bu raid iddo ei ail wneyd oll drachefn, ac ni phallodd ei amynedd yn y mesur lleiaf nes ei gael i ben, ac wrth ei gyflawni, ymresymai yn fanwl am bwnge Duwinyddol, ar yr hwn y mae erthygl yn y Geiriadur, â'r hon yr oedd yn annghytuno mewn un peth neu ddau. Wedi gosod y fagl yn gywrain hefyd, traethodd y brawd dyeithr ei neges, a chafodd yn rhwydd yr hyn a geisiai.
Nododd un o'r brodyr yn y cofiant hwn ei fod ambell dro yn cael oedfaon llewyrchus iawn. Cafodd lawer o honynt o dro i dro. Cofir yn hir am oedfa felly a gafodd yn Mangor yn nghyfarfod y Sulgwyn 1860. Y testyn oedd Marc x. 49. Yr oedd mewn hwyl nefolaidd anghyffredinol, a'r gynnulleidfa yn yr agwedd fwyaf dymunol yn gwrandaw arno. Yr oeddym yn synu na buasem wedi gweled y testyn yn yr un goleuni ag ef o'r blaen: ond nid oedd wiw cynyg pregethu arno mwyach. Yr oedd Mr. Jones wedi ei andwyo i neb arall am lawer o flynyddoedd o leiaf.