Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/208

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Clywsom bregeth ganddo ar Phil. ii. 13. Yr hon a osoda allan gysondeb gras a dyledswydd gystal a dim a glywsom erioed. Clywsom lawer yn pregethu ar yr adnod o dro i dro. Clywsom T—— ond nid oedd yn ei bregeth ef ddim gras. Clywsom H—— ond nid oedd ganddo ef ddim dyledswydd. Clywsom Dr. Vaughan, a'r Dr. arall sydd etto yn fyw, ac yn wr o ddysg a gallu mawr: ond o bob un o honynt nid oedd un yn d'od i fyny ar hen Batriarch o Gefnmaelan am eglurdeb a chysondeb hefyd.

Sylwyd yn y cofiant hwn mai penau ei bregethau yn unig a ysgrifenai Mr. Jones: ond er hyny, nid oedd yn fyr o feddyliau na geiriau chwaith, i wneyd ei holl faterion yn eglur a tharawiadol i'w wrandawyr. Nid ydym yn meddwl y byddai yn fuddiol rhoddi cynlluniau felly o'i bregethau ef o flaen ein darllenwyr. Nid ydynt ond esgyrn heb ddim cnawd yn eu cylchynu. Yr unig bregeth a gawsom yn mysg ei ysgrifau a rhyw ychydig o gnawd am ei hesgyrn, yw yr un sydd yn ganlynol i'r nodiadau hyn. Pregeth ar swydd y Diaconiaid ydyw; a chan ei bod yr engraifft oreu a allwn ni gael yn awr o hono ef fel pregethwr, rhoddwn hi i ddilyn y sylwadau hyn.

Yr ydym yn cofio llawer yn beio Mr. Jones, oblegid y nodiadau a wnaeth ar lythyr y Parch. John Elias, yn cymeradwyo pregethau Mr. Hurrion, ar Brynedigaeth: ond Heroworshippers oedd y beiwyr. Ysgrifenodd Mr. Jones ei sylwadau yn 1821, yn mhoethder dadleuon ar byngciau y ffydd. Yr ydym newydd eu darllen drosodd yn fanwl, ac yr ydym yn gorfod tystio eu bod yn dra chymhedrol ar y cyfan—yn llawer mwy felly na llythyr y prif areithiwr o Fon, yr hwn a achosodd eu hysgrifeniad.

Ymddengys fod Mr. Jones fel eraill wedi bod mewn helbulon mawrion gyda dyledion yr addoldai yn maes ei weinidogaeth. Cafwyd yn mysg ei bapurau y nodiad a ganlyn: "Pan ddaethum gyntaf i Ddolgellau, yr oedd y ddyled ar yr addoldai, (heblaw yr anedd—dai yn y Brithdir a'r dref), o 450p. i 500p. Wedi hyny, dilewyd 160p. oedd yn aros ar y Cutiau, 20p. ar Lanelltyd, a thua 230p. ar gapel y dref, a'r oll a arhosai