Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/209

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar addoldy y Brithdir, yn nghyd a rhan o ddyled yr anedd-dy. Gwnaed hyn trwy gasgliadau yn yr amrywiol gymydogaethau cartrefol, yn nghyd a'm mynediad innau trwy Ogledd a Deheubarth Cymru, sir yr Amwythig, Llynlleifiad, a Llundain. Cefais yn Llundain 131p. 4s. 2c. at y Cutiau a'r dref: ond cyn gorphen rhyddhau addoldy y dref, barnwyd yn angenrheidiol ei adnewyddu a'i helaethu, yr hyn a gostiodd tua 448p., pryd y gwnaed tanysgrifiadau anrhydeddus gan yr eglwys ac amryw wrandawyr, ac y casglwyd yn egniol drwy y cymydogaethau at leihau y ddyled hon. Bu pedwar cyfnewidiad wedi i mi ddyfod yma. Costiodd y cyntaf tua 30p. Costiodd yr ail tua 44p. Costiodd y trydydd, pryd yr eangwyd ei led, 448p. Costiodd y pedwerydd, pryd y codwyd ei lawr, 90p." Felly cafodd yr Hen Weinidog ei ran yn helbulon dyledion a chasgliadau fel ei frodyr yn gyffredinol.

Ar yr Ysgol Sabbothol, cawsom y sylw a ganlyn yn mhapurau ein hen gyfaill: "Buwyd yn llesg neillduol gyda'r Ysgol Sabbothol yn y dref am flynyddau meithion; ond trwy lafur diflino dau neu dri, yn neillduol ein hen gyfaill Mr. Thomas Davies, yr hwn er ei fod dros rai blynyddau yn cael ei ddiystyru fel addysgwr ynddi, bob yn ychydig, daeth y rhai mwyaf deallus i weled fod synwyr yn yr hyn a osodai dan sylw yr Ysgol, ac i ymgais at osod ei gynlluniau mewn arferiad, nes yr ennillwyd yr ysgol yn gyffredin i hoffi y gwaith sydd ynddi, yn nghyd a threfn ei dygiad yn mlaen. O ganlyniad, y mae wedi bod yn foddion i ddwyn sylw cyffredinol at bethau y Beibl, a dwyn rhai i feddu gwybodaeth eang, a medrusrwydd mawr i egwyddor eraill."

Cydnabydda Mr. Jones mewn ysgrif o'i eiddo sydd ger ein bron, wasanaeth gwerthfawr y pregethwyr cynnorthwyol oeddynt yn nghylch ei weinidogaeth ef, yn mysg pa rai yr enwa Robert Roberts, o'r Henblas, Brithdir, a Richard Roberts, o'r Felin, Ganllwyd, heblaw eraill sydd yn fwy adnabyddus, ac ychwanega, "Eu bod yn gynnorthwywyr sefydlog am lawer blwyddyn, a hyny, heb un gydnabyddiaeth deilwng am eu llafur yn neb o'r lleoedd y gweinyddent ynddynt."