Cofnodir hefyd yn mhellach gan wrthddrych ein cofiant: "Fod cariad brawdol yn addurno y gynulleidfa yn Nolgellau dros lawer o flynyddoedd wedi ei ddyfodiad ef i'w plith, yn gymaint felly, nes oeddynt yn galonog a chryfion i ddwyn y gwaith yn mlaen, yn weinidog ac eglwys; ac felly, llwyddasant yn raddol, a chawsant rai tymhorau o lwyddiant mawr. Dywedai un hen wr, yr hwn nad oedd yn proffesu crefydd gydag unrhyw blaid, am danynt unwaith: "Yr wyf yn gweled yn eglur, er nad ydych ond ychydig o nifer, fod cariad brawdol yn uchel ei ben yn eich plith, yr hyn sydd asgwrn cefn, a mawr brydferthwch i chwi fel Ymneillduwyr."
Nid yn rhwydd y ceid Mr. Jones i feirniadu ar bregethwyr a phregethau, ysgrifau a llyfrau, ond byddai yn wastadol yn bwyllus, arafaidd, ac ystyriol beth a fyddai yn ei ddywedyd. Byddai raid galw ei sylw, yn gyffredin, at bethau felly cyn y dywedai nemawr: ond yr oedd ei glust yn deneu, a'i feddwl o duedd fanylgraff a beirniadol, er mai hwyrfrydig oedd i ddywedyd ei farn. Etto cynhyrfid ef weithiau i wneyd sylwadau beirniadol heb i neb ei gymhell i hyny. Cof yw genym fod gweinidog ffyddlon ond lled ddichwaeth, wedi gwneyd sylw mewn araeth ar ddiwedd y cyfarfod blynyddol yn nghapel Mr. Jones, yn y flwyddyn 1841. Dymunai y brawd hwnw bob llwyddiant i'r eglwys yn y lle, a galwai hi yn "eglwys Duw Dolgellau." Sylwai Mr. Jones wrth ddau gyfaill ar ol y cyfarfod, fod rhyw beth go hynod yn y fath sylw. "Yr oedd ef," meddai, "fel pe buasai am i'r bobl feddwl fod gan Ddolgellau yma ryw Dduw neillduol iddi ei hunan, a gwahanol i leoedd eraill."
Yn mhen blynyddau lawer wedi hyny, pregethodd gwr dyeithr yn Nolgellau ar bwnge y dadleuwyd cryn lawer arno o bryd i bryd. Tybiai y gwr dyeithr fod ganddo ryw bethau gwerth eu traethu ar y mater, ac yr oedd ei olygiadau yn hollol groes i'r eiddo yr hen weinidog; ond barnai y Duwinydd o Gefnmaelan fod y pregethwr yn amddifad o gynheddfau digon galluog, o wybodaeth gymhwys, o resymeg, ac o degwch i drin y materogwbl; ac wrth adolygu y bregeth wrth ei hamdden,