Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/211

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedai, "Na roisai ddarn o goes y bibell oedd yn ei law ar y pryd am dani-nad oedd yn werth dim ond i wenwyno meddyliau gweiniaid, ac i ddiffodd a lladd ysbryd crefydd." Gallai fod y sylw yna yn un o'r rhai llymaf a ddiferodd dros ei wefusau ef wrth feirniadu.

Barnai ef y gellid gochelyd y rhan fwyaf o ymrafaelion ac ymraniadau eglwysig drwy bwyll, amynedd, a mwyneidd-dra. Cof genym ei glywed yn dywedyd y buasai ychydig yn ychwaneg o'r pethau hyny yn cadw hen eglwys Annibynol Llanuwchllyn heb ymranu, yn yr annghydwelediad a fu yno ryw haner can' mlynedd yn ol. Clywsom ef yn gwneuthur y sylw yna lawer gwaith, ac nid oes unrhyw amheuaeth ar ein meddwl yn nghylch ei gywirdeb. Nid oedd ynddo y cydymdeimlad lleiaf a gerwindeb penglogaidd dan yr enw " sêl dros y gwirionedd."

Gallai ein hen frawd syrthio i mewn a threfniadau cyfarfodydd pregethu yn hynod o dawel a dirwgnach. Nid oedd o nemawr o bwys ganddo pa bryd na pha le y dodid ef i bregethu. Yr oedd y diweddar Michael Jones, Llanuwchllyn, yn debyg iddo yn hyny. Nid oedd yr un o honynt yn pryderu nac yn gofalu dim am bethau felly. Gwelsom rai yn dra anhawdd eu trin, os na ymddygid tuag atynt yn ol eu tyb oruchel hwy eu hunain am eu teilyngdod. Ond gwenai Mr. Jones, o Ddolgellau, yn dawel wrth weled peth felly.

Cyfarfyddai oerfelgarwch heb gymeryd arno ei fod yn deall dim yn ei gylch, tra y cadwai y neb a'i coleddai o fewn terfynau gweddeidd-dra yn eu hymddygiadau; ond dangosodd ar amryw o amgylchiadau, fod ganddo wroldeb digryn, a medrusrwydd digoll i amddiffyn ei hun rhag camwri, pan y golygai fod hyny yn hollol angenrheidiol. Synai wrth weled dynion a gyfrifid yn fawr a thalentog mor bryderus yn nghylch eu gogoniant eu hunain. Nid ydym yn gwybod am neb a wynebodd holl amgylchiadau bywyd hir a chyhoeddus, mor dawel, dirodres, a gwir foneddigaidd ag y gwnaeth ef.