Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/214

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

og yn cael digon i gael bwyd a dillad ganddynt, er ei fod yn un o'r gweinidogion parchusaf a mwyaf teilwng!

Yn mhellach. Dymunaf eich galw i gof y dylech fod yn ofalus iawn am gadw cyfrif teg a manylaidd o'r holl arian a ddelo i'ch dwylaw.

1. Mae y diffyg o hyn wedi achosi terfysg ac ymraniadau anocheladwy, a'u heffeithiau yn annisgrifiadwy.

2. Cofiwch hefyd am iawn ddefnyddio y cyfan a ddelo i'ch dwylaw er ateb eu dyben priodol; a gochelwch er dim ddefnyddio arian y cysegr yn eich achos eich hunain. Gwn i am amryw sydd wedi gwneuthur hyny, a byth heb eu talu yn ol i'w manau priodol.

3. Cofiwch eich bod yn gyfrifol i'r eglwys yr ydych yn gwasanaethu ynddi, ac yn y pen draw yn gyfrifol i Dduw.

Gwelwn—1. Fraint diaconiaid da. 2. Mai melldith mewn eglwys ydyw diaconiaid drwg. 3. Mai bendith fawr iawn i eglwys yw diaconiaid da.

4. Gofynir i chwi daflu golwg ar eich cydaelodau, ac ymgynghori yn nghyd a'ch gweinidog am y triniaethau angenrheidiol perthynol i'r eglwys yn gyffredinol.

PENNOD XVIII.

ADGOFION—LLYTHYRAU ODDIWRTH HEN GYFEILLION.

LLYTHYR I.

Wrth grybwyll enw yr Hen Olygydd rhed amryw deimladau a chyfyd amryw adgofion yn fy mynwes. Un mlynedd a deugain yn ol cefais y fraint o'm neillduo i waith y weinidogaeth, pryd yr oedd rhagor na deuddeg o weinidogion yn bresenol ar yr achlysur. Nid oes yn bresenol ond tri o honynt yn fyw: cymerwyd y lleill i'w gorphwysfa; a'r diweddaf o honynt oedd yr Hen Olygydd.

Deugain mlynedd yn ol, yr oedd yn swydd Feirion, bedwar o weinidogion, nad oedd o fewn cylch y Dywysogaeth neb yn rhagori arnynt, ychydig iawn yn gyfartal iddynt, ac yn arbenig mewn synwyr cyffredin i drafod achosion ac i reoli amgylchiadau. Y pedwar hyn oeddynt Hugh Lloyd, Towyn; Edward Davies, Trawsfynydd; Michael Jones, Llanuwchllyn; a Chadwaladr Jones, Dolgellau. Perthynai iddynt ill pedwar ddysg, a gwybodaeth, a dawn, a duwioldeb priodol i'w swydd, a chyda'r cwbl hynodid hwynt gan yr hyn y crybwyllwyd eisoes am dano—synwyr cyffredin. Yr oeddynt yn ei berchen i raddau anghyffredin. Nid yw synwyr yn ddigon heb ras i'w reoli, oblegid gall weithredu mewn dichell; ac nid yw gras yn ddigon heb synwyr i'w reoli, oblegid gall weithredu