mewn ffoledd. Y naill gyda y llall a gyfansoddant gymmeriad perffaith. O'r enwogion crybwylledig nid oes yn bresenol yn fyw ond Edward Davies, Trawsfynydd; ac y mae yntau allan o'r tresi er's amrai flynyddau o herwydd gwendid a musgrellni henaint.
Mewn llawer iawn o ystyron y mae gan weinidogion ieuaingc yr oes bresenol achos mawr i fod yn ddyolchus. Y mae yr eglwysi yn gyffredin wedi cynyddu mewn haelioni tuag at y rhai sydd yn hau iddynt bethau ysprydol, y mae y rheilffyrdd yn gyfleus i dramwy yma a thraw, ac y mae llawer o'r hanos a'r cyfarth ar ein hol wedi darfod. Ychydig iawn o gydnabyddiaeth arianol a roddid ddeugain mlynedd yn ol i weinidogion am eu llafur a'u gwasanaeth; byddai raid iddynt wynebu ar fynyddoedd a phantiau, bryniau a chymoedd, gwyntoedd a gwlawogydd, i roddi eu gwasanaeth mewn cyfarfodydd pregethu, a byddai yn gywilydd mynegi bychandra y tâl a dderbynient. Nid oedd yr eglwysi y pryd hwnw wedi dysgu haelfrydedd.
Yr oedd hefyd yn y dyddiau hyny gŵn a chorgŵn yn crwydro ar hyd ac ar draws y wlad gan gyfarth a'u holl egni. Tynid sylw y cyffredin y dyddiau hyny at y Rhyddfreiniad Pabaidd, y Cofrestriad Cyffredinol, y Deddfau Prawf a Bwrdeisiol, a Phriodi mewn capeli. Yr oedd y materion hyn yn tynu sylw, ac yn peri cyffro. Camddarlunid ac erlidid pob un oedd bleidiol i'r mesurau crybwylledig. Dywedid gyda defosiwn gor-grefyddol, "y mae genym ni ddigon o ryddid; nid oes arnom eisiau, ac nid ydym yn ceisio rhagor. Pe byddai arnom eisiau rhagor, byddem yn ffyliaid; pe y ceisiem ragor, byddem yn rebels." Ond llwyddwyd i gael y mesurau hyny oll, a dystawodd y cyfarthiad cysylltiedig a hwynt.
Yr oedd hefyd yn y dyddiau hyny gryn ferw yn nghylch Athrawiaethau Gras. Credid genym mewn Arfaeth Dragywyddol ac Etholedigaeth Gras, yn annibynol ar na haeddiant na gweithred o eiddo dyn, ac ystyrid hyny yn uniongred: ond credid genym hefyd Gyffredinolrwydd Iawn Crist, a gwrthwynebem yn egniol yr olwg fasnachol ar Brynedigaeth. Gwahaniaethid genym rhwng gallu naturiol a gallu moesol dyn fel creadur. Gwrthwynebid genym y syniad fod y Pechod Gwreiddiol yn disgyn fel brêch o dad i fab, ac o fam i ferch. Yr oeddem fel enwad yn cydolygu a'r diweddar Dr. Edward Williams o Rotherham, mai diffyg moesol, ac nid sylwedd