Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/216

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

moesol ydyw pechod. Diffyg naturiol ydyw oerni: diffyg gwres. Diffyg naturiol ydyw tywyllwch: diffyg goleuni. Felly hefyd golygem mai diffyg moesol ydyw pechod: diffyg rhinwedd. Diffyg cariad ydyw casineb; diffyg ffydd ydyw annghrediniaeth. "Annghyfraith ydyw pechod," h.y. diffyg cydffurfiad a'r gyfraith. Yr oedd llawer yn camddeall ac yn camddarlunio. Dywedid ein bod yn dal allan "allu dyn," a thraethid yr ynfydrwydd mwyaf wrth geisio esbonio ei anallu. Haerid nad oedd gan ddyn na gallu nac ewyllys mewn un ystyr yn y byd. Darlunid ni fel rhai yn dysgu mai dim ydoedd pechod, ond y caem "ei deimlo yn pwyso yn drymach na dim ar ein hysgwyddau yn y farn." Crochfloeddid yma a thraw, "Heresi! Morganiaeth! Haner-Morganiaeth!" Yr oedd y "Cadams" hefyd yn destyn cyfarthiad. Nid oedd "bechgyn y dwylaw gwynion" ond pryfedach i'w dyfetha; ac yr oedd "manufactro pregethwyr" yn beth hynod ryfygus. Bellach y mae y rhôd wedi troi, ac ni feiddir mwy arfer cyffelyb ystrywiau. Pethau i'w maddeu ydyw y pethau hyn, ond nid i'w hanghofio. Byddai eu hanghofio yn anghyfiawnder a ffeithiau.

Crybwyllwyd am y pethau uchod er mwyn dangos fod yr Hen Olygydd yn byw mewn dyddiau blinion: ond yn nghanol holl ryferthwy y tymhestloedd, meddianai ei enaid mewn amynedd. Yr oedd ei arafwch yn hysbys i bob dyn. Pwyll a hunan-feddiant oeddynt hynodion ei gymmeriad. Yr oedd bob amser mewn llawn waith, ond byth mewn llawn brys. Dichon i ddyn fod bob amser yn ffwdanus o brysur, ac etto heb ond ychydig iawn o waith yn cael ei gyflawni ganddo. Heblaw ei orchwylion llenorol, yr oedd ganddo bedair neu bump o eglwysi i dramwy atynt, ac i fwrw golwg arnynt. Ond yn nghanol y cwbl cyflawnai ei waith yn ddiwyd ac yn hollol ddidrwst a digyffro.

Byddai bob amser yn barod i gefnogi ac i estyn llaw o gymhorth i ddynion ieuaingc yn dechreu pregethu. Yr wyf yn dywedyd hyn oddiar wybod, ac nid oddiar glywed. Pan o gylch pump a deugain o flynyddau yn ol yr oeddwn yn pres+ wylio o fewn pellder taith esmwyth i Ddolgellau, arferwn dalu ymweliad iddo yn awr ac eilwaith, a chefais ef bob amser yn siriol a chroesawus. Rhoddodd i mi lawer cynghor a chefnogaeth, ac ar gyfrif hyny y mae ei goffadwriaeth yn barchus genyfly dydd heddyw. Yr oedd y diweddar Michael Jones o'r Bala yn gwbl o'r un yspryd, fel y gall lluaws o wyr ieu-