Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/217

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aingc dystio. Ychydig gefnogaeth geir gan ambell un. Os gall gwr ieuange ddringo i fynu heb ei gefnogaeth, pobpeth o'r goreu, caiff ei barchu ganddo, ond byth ni estyna law o gymhorth iddo, a byth ni lefara air o galondid wrtho.

Fel Golygydd perthynai iddo lawer iawn o ragoriaethau. Dechreuodd yn gynar agor dalenau y Dysgedydd i drin materion ac i ledaenu syniadau ag oeddynt y pryd hwnw yn dra anmhoblogaidd. Nid oedd un cyhoeddiad arall yn Nghymru ond Seren Gomer yn ddigon gwrol i wynebu ar gabl a gwawd y rhagfarnllyd a'r anwybodus. Teilynga y Dysgedydd barch a derbyniad fel rhag-gloddiwr i'r egwyddorion gwladol ac eglwysig sydd yn awr mor ffynadwy. Y pryd hwnw cyfarfyddent a gwawd ac a chabledd, ond safai yr Hen Olygydd yn ddiysgog wrth y llyw. Ni syflid ef gan drwst tafodau na chan awchlymder gwrthwynebiadau o un math. Y mae y byd yn awr wedi newid. Rhyfedd ydyw nerth dylanwad y wasg; a llawer rhyfeddach ydyw nerth dylanwad Rhagluniaeth mewn amser a thrwy amgylchiadau. Teilwng o grybwylliad ydyw un rhagoriaeth fawr a berthynai iddo fel Golygydd, h.y. byth ni wthiai ei hun i'r golwg heb fod galwad am dano. Gallasai lenwi haner rhifynau y Dysgedydd a'i gynnyrchion ei hun; ond anfynych iawn yr ymddangosai dim o'r eiddo. Diffyg mawr mewn Golygydd, o leiaf dyna fel yr wyf fi yn tybio, ydyw gwthio ei hun i'r golwg ar bob achlysur, dodi ei fys ar bob mater, a llefaru ar bob testyn. Ni pherthynai ysfa felly i'r Hen Olygydd: ond pan y deuai allan, ymddangosai yn ei lawn nerth. Pan yn terfynu dadl trwy ei hadolygu, byddai ei adolygiad o werth y cwbl a ddywedid y naill ochr a'r llall. Dangosai ei wybodaeth, ei synwyr, a'i graffder. Dichon mai anfuddiol i bawb, ac annerbyniol gan lawer, fyddai i mi nodi allan yr adolygiadau hyny, gan y gall y sawl sydd yn ewyllysio eu gweled gael boddio eu hewyllys trwy chwilio cyfrolau y Dysgedydd.

Gwn am dano ei fod yn hynod ddi-hunangais. Ni bu erioed yn pysgotta am boblogrwydd: yr oedd ganddo enaid uwchlaw hyny. Gwir ei fod yn boblogaidd, yn enwedig yn yr ardaloedd lle yr adwaenid ef oreu. Nid oedd ynddo ysfa i ymwthio i sylw; gwyddai ei safle ac ymfoddlonai arno. Gwyddai ei fod yn sefyll yn uchel fel gweinidog ac fel Duwinydd, ac nid oedd angen arno, nac awydd ynddo i arfer unrhyw gynlluniau i ddringo. Nid ceisio poblogrwydd a ddarfu, ond ei enill.

HUGH PUGH.

Mostyn.