Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/218

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLYTHYR II.

Mae yn dda genyf ddeall y bwriedir gwneyd cofiant am fy hen gyfaill ymadawedig, y Parch. Cadwaladr Jones o Ddolgellau. Gwelaf fod cais wedi ei hysbysu y dymunir ar amrai o hen gydnabyddion a chyfeillion Mr. Jones, ysgrifenu ychydig o'i hanes; ac fel un o'r cyfryw wele fi yn amcanu adgofio rhai pethau mewn perthynas iddo ef. Nid oeddwn ychydig o amser yn ol, yn meddwl mai fel hyn y buasai pethau yn bod. Nis gwyddom pa bethau sydd o'n blaenau, ac y mae yn dda hyny, ar lawer o ystyriaethau. Byddai fy hen frawd C. Jones, yn mwynhau iechyd da braidd bob amser, ar hyd ei oes hirfaith. Nid wyf yn cofio i mi ei glywed yn cwyno erioed ei fod yn glaf, hyd o fewn ychydig amser i ddydd ei ymddatodiad. Cefais i gryn lawer o afiechyd, a buaswn yn hyderu mwy ar ei einioes ef nag ar yr eiddof fy hun; ond fel hyn y mynai fy Nhad nefol iddi fod, i ryw ddybenion teilwng yn ei olwg ef. Bu fy hen frawd Jones yn ffyddlawn, ac ymdrechgar iawn gyda gwaith yr Arglwydd ar hyd ei oes, a'm dymuniad a'm gweddi innau ydyw, bod yn ffyddlon, a chael marw yn y tresi. Yr amser cyntaf y gwelais y brawd Jones oedd yn Llanymowddwy, yn pregethu yn nhŷ hen wraig, o'r enw Mary Sion Huw, lle y byddai amryw o wahanol enwadau yn pregethu y pryd hyny. Ei destyn y tro hwnw ydoedd, Diar. xvii. 17, "Cydymaith a gâr bob amser, a brawd a anwyd erbyn caledi. Un mater yn y bregeth oedd cariad Duw. Yr oedd yn sylwi fod cariad Duw i'w ystyried mewn dau olygiad, sef cariad o ewyllys da, a chariad o hyfrydwch; a dywedai fod Duw yn caru dynion o ewyllys da, pan y byddent yn pechu, yr un modd a phan na fyddent felly; ond nas gallai eu caru a chariad o hyfrydwch, ond pan fyddent yn byw yn dduwiol. Yr oedd rhai yn teimlo yn anfoddlon iawn, am ei fod yn dywedyd fod Duw yn caru dynion pan fyddent yn pechu; a theimlais innau awydd i'w amddiffyn, a dywedais fod ei destyn yn dyweyd felly, a'i fod yntau yn dilyn ei destyn. Digwyddodd i mi fyned i'r Bala, Sadwrn Ynyd, yn y flwyddyn 1808, a daethym y noson hono i dy fy ewythr, Robert Oliver,[1] o'r Ty Coch, Llanuwchllyn, a threuliais y Sabboth yno; aeth

i'r Hen Gapel am 10 o'r gloch y Sabboth, a C. Jones oedd yno yn pregethu y tro hyny. Ei destyn ydoedd, Caniadau

  1. Taid Golygydd y Cofiant hwn.