Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/219

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Solomon, i. 9-"I'r meirch yn ngherbydau Pharaoh y'th gyffelybais fy anwylyd." Yr oedd yn ddiwrnod oer iawn, ac yntau yn pregethu yn bwyllog a digynwrf anghyffredin, fel pe buasai yn gofalu na chyffyrddai a theimladau neb; ond yn rhywle tua chanol y bregeth (mi feddyliwn) dyma ddynes yn syrthio yn ddisymwth mewn llewyg, ac am gryn amser yn methu cael ei hanadl, fel y dychrynais i yn fawr, gan ofn ei bod yn marw; ond cyn pen ychydig, wele eraill yn syrthio yr un modd; ond pan ddaethant i allu cael eu hanadl, nid oedd eisiau dim yn rhagor o'r bregeth; ond yr oeddynt hwy yn pregethu, ac yn gorfoleddu a'u holl egni, erbyn hyn yr oedd. yn amlwg yr achos, fod y pregethwr yn cymeryd cymaint o bwyll ac arafwch; yr oedd yn rhaid i bawb wneyd felly, yn nghymydogaeth Llanuwchllyn y pryd hwn, er hyny prin y cai neb fyned trwy haner ei bregeth; a pharhaodd yn ddiwygiad grymus iawn am hir amser, a chwanegwyd llawer at rifedi yr eglwys yn yr Hen Gapel. Nid oedd genyf y pryd hyny unrhyw gydnabyddiaeth bersonol a'r brawd Jones, nag am amryw flynyddoedd wedi hyny, hyd nes ydoedd wedi ymsefydlu yn y weinidogaeth, a phriodi y tro cyntaf; ac ni bu fawr o gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch rhyngom, hyd nes y darfu i minau briodi, ac ymsefydlu yn Nhrawsfynydd, yn y flwyddyn 1822. Pan y daethym i ymsefydlu yn Nhrawsfynydd, yr oedd Richard Roberts, o'r Ganllwyd, yn dyfod unwaith yn y mis i Ben-y-stryd a Maentwrog; felly yr oedd genyf finau un Sabboth o bob mis i fyned lle y mynwn, a dymunodd y cyfeillion yn y Ganllwyd a Llanelltyd arnaf roddi y Sabboth hwnw iddynt hwy; a chydsyniais innau a'u cais. Yr oedd y brawd Jones hefyd, yn rhoddi Sabboth yn y mis yn y Cutiau a Llanelltyd; ac felly y buom ein dau yn cydweinidogaethu yn Llanelltyd bob yn ail pythefnos, am yn agos i 46 o flynyddoedd, yn ddigoll; a gallaf ddywedyd, na bu rhyngom un gair croes, nag annghydfod erioed yn y mesur lleiaf. Yroeddym yn gyfeillion, nid mewn enw yn unig, ond mewn gweithred a gwirionedd. Gwelais rai a fyddent yn ymddangos (o'r hyn lleiaf) yn gyfeillion mawr, pan na fyddai neb arall i'w cael; ond os digwyddai iddynt gael cyfle i ymgydnabyddu a rhyw rai a dybient yn rhagori mewn enwogrwydd, buan iawn y ceid gweled eu cefnau, ac y dangosent ddiystyrwch o'u hen gyfeillion. Ond nid un o'r dosparth twyllodrus a diymddiried, a gweniethgar hyn ydoedd fy hen frawd Jones; ond byddai ef bob amser yr un, pa un bynag a'i gartref ai oddicartref y