Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/220

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byddai. Yr oedd yn ofalus iawn rhag clwyfo teimladau cyf eillion heb achos, o'r hyn lleiaf, felly yr ymddygodd tuag ataf fi bob amser. Teithiasom lawer gyda ein gilydd i Gymanfaoedd a Chyfarfodydd eraill, trwy wahanol siroedd Gogledd Cymru, a hyny gan mwyaf ar ein cost ein hunain; talasom lawer am gael pregethu, ac ni theimlasom ofid o herwydd hyny. Nid oedd, tua 50 mlynedd yn ol, ond ychydig o weinidogion yn mhlith yr Annibynwyr yn Ngogledd Cymru, felly yr oedd yn rhaid i'r rhan fwyaf o honom fyned yn aml oddicartref; ac oni buasai hyny, nid yr olwg sydd ar yr achos yn awr a welsid. Yr amser hyny, yr oedd yn angenrheidiol am gryn lawer o hunanymwadiad, ac yspryd aberthu, oblegid nad oedd dim cydnabyddiaeth i'w gael am fyned i gyfarfod na chymanfa, a byddem yn pregethu cryn lawer wrth fyned' a dyfod, a dim am y boen, a thuag at draul teithio, ond diolch yn fawr i chwi, a brysiwch yma etto; ond erbyn hyn y mae pethau wedi dyfod yn well. Yr wyf yn cofio am un tro y buom ein dau yn cadw cyfarfodydd yn sir Fon, ac ar ol croesi afon Menai, yn Moel-y-don, i ddyfod tuag adref, safodd y brawd Jones, a dywedai, "Aroswch chwi, a oes genym ddigon i gyrhaedd adref tybed?" Yna dechreuasom gyfrif ein llogellau, a'r tollbyrth, &c., oedd genym i'w talu, a medrasom gyrhaedd adref y tro hwnw heb ofyn benthyg i neb. Ein hoff waith wrth gyd-deithio fyddai cyfansoddi pregethau; ac yr oedd hyn yn angenrheidiol hefyd, fel y byddai genym bregeth newydd erbyn y Sabboth, wedi bod oddicartref yn fynych ar hyd yr wythnos; a medrem ddefnyddio golygiadau ein gilydd yn lled ddidrafferth. Mae yn gofus genyf, ein bod yn myned gyda ein gilydd i Ddinasmawddwy, i gladdu ein hen frawd caredig a ffyddlon, y Parch. Willam Hughes; yr hyn a gymerodd le Ionawr 3ydd, 1827, ein bod yn gwneyd pawb o bregeth ar hyd y ffordd; a phregethasom hwynt ar yr achlysur. Testyn C. Jones ydoedd, 2 Tim. iv. 7. Digwyddodd i'r brawd Jones a minau, fyned unwaith, mor bell ag Aberaeron i gyfarfod Chwarterol, ar ddymuniad rhai o'r cyfeillion yn Nhalybont, yn achos rhyw annghydfod oedd wedi cymeryd lle yn eu plith; a bod y Dr. Phillips, o'r Neuaddlwyd, yn gofyn i rai o'r brodyr: "A ydyw y ddau frawd yna o'r Gogledd yn ddirwestwyr, tybed?" "Ydynt, ac yn ffyddlon i'w hardystiad," oedd yr attebiad. "Ho," meddai yntau, "dichon y cyrhaeddant adref felly." Mae hyn yn dangos nad oedd pethau fawr well yn y Deheudir mwy na'r Gogledd, er fod yr eglwysi yn llawer