Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/221

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwy lluosog. Nid oedd fy mrawd Jones yn arfer a gwaeddi llawer wrth bregethu, ac felly gallai rhai feddwl, a dywedyd hefyd, nad ydoedd yn bregethwr mawr, fel y dywedir; ond gellir dywedyd heb gyfeiliorni, ei fod wedi gadael llawer o rai gwaelach nag ef ei hun ar ei ol; a hyny fe ddichon yn mhlith y dosbarth a dybient eu hunain yn addas i feirniadu arno ef a'i bregethau.

Clywais y Dr. Phillips, o'r Neuaddlwyd, yn dywedyd yn urddiad y brawd, Mr. M. Jones, yn Llanuwchllyn, ei fod ef pan yn ieuangc wedi meddwl myned yn bregethwr mawr; a'r ffordd yr oedd ef yn meddwl ei chymeryd er cyrhaedd yr amcan hwnw, oedd dewis y testynau mwyaf tywyll ac annghyffredin, a dywedyd oddiwrthynt bethau na byddai braidd neb yn gallu eu deall. Ond dywedodd ei fod wedi gweled ei gamsynied, a newid ei feddwl er's llawer dydd; ac y buasai ef yn ystyried ei hunan yn llawer mwy pregethwr, pe gallasai bregethu yn y fath fodd na buasai neb yn methu ei ddeall; felly ni chlywais neb erioed yn cwyno eu bod yn methu deall y brawd Jones. Nid oedd gwrthddrych y cofiant hwn yn ymddibynu llawer ar hwyl, fel y dywedir, wrth bregethu, er y teimlai beth felly weithiau. Byddai ganddo ef faterion sylweddol bob amser yn ei bregethau, ac felly gallai fyned yn mlaen yn rhwydd a chysurus iddo ei hunan a'i wrandawyr, yn enwedig i'r rhai hyny a hoffent wybodaeth ac adeiladaeth, pa un bynag ai hwyl ai peidio. Clywais ef yn pregethu ugeiniau o weithiau, a gallaf dystio na chlywais bregeth wael ganddo erioed; er y byddai ambell i dro yn rhagori, fel pawb.

Clywais Mr. Williams o'r Wern, yn adrodd ei fod ef a gwrthddrych y Cofiant hwn ar daith gyda eu gilydd yn y Deheudir; ac meddai, "yr oedd Jones yn pregethu yn dda o hyd y daith, a minau yn pregethu yn dda iawn weithiau." Clywais eraill yn adrodd am yr un daith, ac yn dywedyd y byddai Williams, ar lawer tro, yn cael llawn ddigon o waith dyfod i'r golwg. Yn y flwyddyn 1821, penderfynodd rhyw nifer o weinidogion yr Annibynwyr roddi cyhoeddiad misol allan, dan yr enw Dysgedydd, ac ymrwymasant os byddai colled ar yr anturiaeth, fod pob un i gydsefyll odditani; ond os byddai rhyw elw yn deilliaw, i gyflwyno hyny mewn rhan at achosion daionus. Ni chafwyd dim colled-ond trodd yr anturiaeth allan yn llwyddianus; a chyfranwyd ugeiniau, os nid canoedd o bunau (sef yr holl weddill ar ol talu y costau