Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/222

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

angenrheidiol) gan mwyaf i ddynion ieuaingc a fyddai yn bwriadu myned i'r weinidogaeth, er mwyn iddynt allu cyrhaedd ychydig o ddysgeidiaeth. Mae hen sylfaenwyr y Dysgedydd erbyn hyn wedi meirw oll, oddieithr dau, mae un yn Nghymru a'r llall yn America. Rhoddodd hen gychwynwyr y Dysgedydd eu llafur i gyd am ddim; ni dderbyniodd yr un o honynt erioed gymaint ag a fuasai yn talu am gludo un llythyr, yr hyn oedd y pryd hwnw yn ddrud iawn. Dewiswyd y brawd Jones yn Olygydd y Dysgedydd, a pharhaodd yn ffyddlon a llwyddianus tra y bu yn yr ymddiriedaeth, er nad oedd ei dâl ond ychydig wrth yr hyn y dylasai fod. Yr oedd Ꭹ brawd Jones yn ddyn pwyllog, amyneddgar a thawel iawn ei feddwl. Nid wyf yn cofio ei weled ef erioed wedi colli ei dymer mewn unrhyw amgylchiad, nag yn dywedyd na gwneyd dim yn annghyson a'i sefyllfa bwysig fel gweinidog i Iesu Grist. Yr oedd yn ddyn yn meddu mwy o bwyll na'r cyffredin; yr oedd braidd yn ormod felly ar rai amgylchiadau. Cyfarfu ef a minau a llawer o dywydd tymestlog a gwlawog iawn, lawer tro ar ein teithiau; ond ni welais mo hono yn prysuro dim mwy ar amserau felly nag amserau eraill; ni chlywais mo hono yn cwyno rhag y tywydd. Clywais ef yn dywedyd yn dawel iawn weithiau, "Mae hi yn gwlychu braidd onid ydyw," pan y byddai yn ein gwlychu hyd y croen. Byddai yn anniben iawn yn dyfod yn mlaen o Bontfawr Dolgellau i ganol y dref, yn enwedig ar amser ffair, ni phasiai braidd neb a adwaenai heb ysgwyd llaw a hwynt a gofyn, "Pa fodd yr ydych acw" yn aml heb enwi neb, oblegid gwyddai fod rhyw acw gan bawb. Yr oedd y brawd Jones yn wladwr da a chymwynasgar; gwnaeth lawer o wasanaeth i'w gymydogion, yn mhell ac yn agos, heb ddim tâl, ond diolch yn fawr i chwi, ac weithiau prin hyny, pan y gorfuasai iddynt dalu yn ddrud i eraill am y cyfryw gymwynasau.

Bu farw y brawd Jones yn debyg iawn fel y darfu iddo fyw, yn hynod dawel a digynwrf[1]Teimlir colled fawr ar ei ol, a bydd yn lled anhawdd cael olynydd iddo. Teimlir hiraeth gan amryw am dano heblaw ei berthynasau, yn enwedig gan ysgrifenydd y llinellau hyn. Yr wyf yn awr yn gweled ac yn teimlo gradd o hiraeth a galar ar ol llawer o gyfeillion

  1. Nis gellais fyned i dalu y gymwynas olaf i fy hen frawd (er chwenychu hyny) o herwydd anhwyldeb corphorol, gan hyny, gadawaf i eraill oedd yn llygaid dystion o'i gladdedigaeth draethu hyny, yn nghyd a'i oedran, hyd weieinidogaeth, ac amryw bethau eraill.