fy ieuengetyd a'm cydlafurwyr yn y weinidogaeth, maent bron i gyd wedi myned i ffordd yr holl ddaear, a'm gadael innau megys dolen gydiol rhwng yr oes a aeth heibio a'r hon sydd yn prysur dynu ar ei hol. A bydd y ddolen hon wedi ei thori yn fuan: canys,
Wyth deg yn rhwydd—deg mewn rhi—a gefais
Yn gyfan o flwyddi,
Yr un modd rho'i Ion i mi
Yn gydwedd ddwy flwydd gwedi:
Trawsfynydd.
EDWARD DAVIES.
LLYTHYR III.
Y mae yn llawenydd mawr genyf fod cofiant yn cael ei barotoi, ac yn debyg o gael ei ddwyn o flaen y cyhoedd am y Parch. C. Jones, o herwydd y credwyf fod ei fywyd yn cynwys ffeithiau a gwersi a fydd o wasanaeth ac addysg i'r oesau a ddaw yn ogymaint ag i'r oes hon. Byddai yn werthfawr genyf gael rhoddi llinell yn ei fywgraffiad, nid am fy mod yn tybio fod diffyg defnyddiau genych i wneyd cyfrol lawn o yni ac addysg; ond o herwydd fy mharch diffuant iddo, ac oblegid fy mod wedi derbyn llawer o garedigrwydd ac addysg oddiwrtho. Byddaf yn ceisio darllen dynion yn gystal a darllen llyfrau. Ac y mae darllen dynion wedi rhoddi i mi fwy o addysg ymarferol na darllen llyfrau. Darllenais lawer ar y Parch. C. Jones, a bu ei ddarllen yn llawer o hyfforddiad i mi yn fy nhaith grefyddol, ac yn enwedig yn fy ngyrfa weinidogaethol. Ac yr wyf yn addaw i mi fy hun, os caf fyw i ddarllen y cofiant, lawer o addysg a budd ysbrydol. I'm tyb i, er lleshau a duwioli y meddwl, y nesaf at ddarllen y Gyfrol Santaidd yw darllen hanes bywyd a marwolaeth dynion da. Yr wyf yn mawr obeithio fod cyfnod etto i ddyfod, pan fydd mwy o chwaeth gan yr eglwysi i ddarllen bywgraffiadau eu blaenoriaid. Yn y dyddiau hyn y mae rhy fach o "feddwl am y blaenoriaid," a rhy fach o sylwi "ar ôl traed y praidd." Yr wyf yn credu mewn olyniaeth, ond ni ellir dal yr olyniaeth yn gyfan heb gyfranogi o egwyddorion ac ysbryd y blaenoriaid. A pha fodd y gellir deall eu hegwyddorion, a theimlo eu hysbryd, ond trwy ddarllen eu hanes? Ond er i ddynion edrych