Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/224

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar yr un person, a darllen yr un bywyd, gallant fod yn wahanol iawn eu golygiadau am nodwedd y cyfryw, o herwydd y mae pob dyn yn gweled a'i lygad ei hun, ac yn ol ei lygad ei hun. Y mae pob gwrthddrych yn ymddangos i ddyn yn ol stad a thymer foesol ei feddwl. Fel y mae tymherau meddwl dynion yn amrywio, felly y gwahaniaetha eu golygiadau am yr un pethau. Nid am bethau yn unig y mae dynion yn gwahaniaethu yn eu barn, ond hefyd am bersonau. Byddai mor hawdd cael dynion i gydweled am bob adnod yn y Beibl, a'u cael i gydolygu am bob dyn yn yr eglwys. Nid yr hyn a fawrha y naill a werthfawroga y llall, o herwydd y mae pob un yn mawrhau a gwerthfawrogi yn ol ei allu ei hun. Y mae gwaith un yn dyweyd ei farn am arall yn fynych yn fwy o ddangosiad o hono ei hun, nag o'r hwn a geisia ei ddangos; fel y mae llawer cofiant yn fwy o ddangosiad o'r cofiantwr nag o'r cofiantedig. Pe caem lawer o gofiantau i'r un person, wedi eu hysgrifenu gan wahanol bersonau, diau y byddai eu darluniad o'r un gwrthddrych yn dra gwahanol. Ond etto gallai y naill fod mor gywir a'r llall, ac heb annghyd—darawiad rhwng y naill a'r llall; ond fod pob un yn traethu yn ol tymer ei ysbryd, ar yr hyn ydoedd fwyaf dyddorol i'w feddwl. Ymddengys fod hyn yn gwbl naturiol, fod delw yr hanesydd ar yr hanes. Am yr un person a'r un ffeithiau y traethai y pedwar Efengylwr; ond etto, y mae pob un yn traethu yn ol ei arddull priodol ei hun, a'r pedwar mewn perffaith gydgordiad yn gwneyd i fyny un dystiolaeth fawr achubol am Waredwr pechaduriaid. Yr oedd y Parch. C. Jones yn un o'r ychydig hyny, ag y dywed pawb yn dda am danynt; ond etto, nid yr un da sydd yn ymddangos benaf yn ngolwg pawb. Ac os oes dim yn cyfreithloni rhoddi llythyrau oddiwrth wahanol bersonau mewn cofiant, hyn sydd, fod y cofiantiedig trwy hyny yn cael ei ddangos yn fwy cyflawn ac amrywiog i ateb i feddwl y cyhoedd. Yr hyn a gyfrifa un yn fawredd, a ystyria y llall yn fychander, a'r hyn a edrych y naill arno yn rhagoriaeth, a gyfrifa y naill yn ddiffyg neu yn waeledd. Ac felly, pan y byddwn yn cael barn y naill am y llall, yr ydym yn derbyn y farn hono yn ol y syniad a fydd genym am yr hwn a'i rhydd. Gwn fod teimladau dynion tuag at eu gilydd yn cario dylanwad mawr ar farn y naill am y llall, o herwydd y cariad a guddia luaws o bechodau, a all hefyd ddangos llawer o rinweddau, y rhai ni wel yr hwn sydd yn amddifad o gariad. Cyfaddefaf yn rhwydd fod genyf