Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/225

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deimlad cynes ac anwyl at goffadwriaeth yr Hybarch C. Jones. Yr oedd enw Jones, Dolgellau, yn un o bethau cysegredig y teulu, yn yr hwn y cefais fy magu. Yr oeddwn er yn fachgen wedi bod yn ddarllenwr o'r Dysgedydd, a thynwyd fy sylw lawer gwaith at ôl—ysgrif, ac estyniad bys y Golygydd. Tybiwn fod sylw byr y Gol. yn penderfynu tynged llawer ysgrif hir, ac estyniad ei fys ar yr amlen fel cleddyf ysgwydedig i gadw ffordd y Dysgedydd rhag y cecrus a'r enllibus. Yr oedd yr ol—sylw a'r bysgyfeiriad wedi rhoddi ynof syniad tra gwahanol am y Gol. i'r hyn oedd genyf wedi i mi gael adnabyddiaeth bersonol o hono. Nid yw yn fy mryd i roddi darluniad o hono yn ei berson, ei ddoniau, a'i waith yn ngwinllan Iesu, ond dichon y goddefir i mi nodi ychydig o bethau ynddo a dynodd fy sylw. Yn gyntaf, nodaf ei diriondeb a'i garedigrwydd i ddynion ieuaingc. Yr wyf yn nodi hyn yn flaenaf o herwydd hyn dynodd fy sylw gyntaf fel peth neillduol ynddo, ac ystyried ei safle a'i oed. Pan ar daith bregethwrol (coffa da am yr oruchwyliaeth hono) aethum ar fy hynt i Ddolgellau pan yn llengcyn difarf, a di— lawer o bethau pwysicach na barf, a mawr oedd fy ofn wrth feddwl ymddangos ger bron, a phregethu yn nghlyw Golygydd y Dysgedydd; ond wedi dyfod i'r dref a chyfarfod a Mr. Jones, symudwyd fy holl ofnau, ac ni'm daliwyd byth mwy gan ofn y Golygydd. Na ryfedded neb fy mod yn ofni ei gyfarfod, oblegid nid yr hyn y cefais ef, y cefais bawb; ond cyfarfyddais ag ambell i hen frawd a deimlai yn ddyledswydd arno fy mesur, a'm pwyso, fy mhobi, a'm crasu. Dichon fod goruchwyliaeth felly yn angenrheidiol; ond nid oedd mor ddymunol â gweinidogaeth dyner a thadol yr hen dad o Ddolgellau. Yr wyf wedi annghofio llawer derbyniad oer a gefais, a llawer gwasgfa galed a deimlais, ac yn wir, nis gallaf ddyweyd eu bod i mi yn "odidog ragorol," ond nis gallaf annghofio caredigrwydd, sirioldeb, a thynerwch Mr. Jones tuag ataf pan yn llengeyn dyeithr ac ofnus. A bu ei diriondeb yn fwy o addysg a lles i mi, na holl wersi a cheryddon, y rhai oeddynt "feistriaid lawer." Yr wyf wedi llwyr annghofio helyntion fy ymweliad cyntaf â Dolgellau, pa beth, a pha fodd y pregethais nis gwn, yn mha le y bum yn lletya, nid wyf yn cofio; pa un a'i croesaw gwresog, ynte cyfleustra oeraidd i orphwys a gefais, nis gallaf ddyweyd. Ond er fod helyntion maith flynyddoedd wedi ysgubo y pethau hyny o'm cof a'm teimlad, etto erys adgof byw o wen siriol, geiriau caredig, a derbyniad croesawgar Mr. Jones yn fy meddwl hyd