Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/226

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dydd hwn. Ac edrychwyf ar hyn fel ernest o ail gyfarfod etto mewn stad uwch a chyflwr gwell.

Yr oeddwn yn edrych ar Mr. Jones yn un neillduol am ei allu i weithio allan ei egwyddorion a'i olygiadau mewn modd didramgwydd i rai o syniadau gwahanol. A'r modd mwyaf didramgwydd yw y mwyaf argyhoeddiadol. Yr oedd yn Annibynwr penderfynol, ac ymdrechai daenu ei eg wyddorion fel y cyfryw yn holl gylchoedd ei lafur, a chafodd y fraint o weled ffrwyth mawr i'w lafur, a gwnai hyny yn y modd mwyaf didramgwydd i enwadau eraill. Nid hawdd oedd cael neb gymaint eu sectyddiaeth, "fel na dderbynient ef i dŷ." Yr oedd ei ddull ef o ymresymu mor dderbyniol, fel na waherddid iddo ef fwrw allan ysbrydion a gyfrifai yn aflan.

Yrydoedd hefyd yn Ymneillduwrcadarn mewn barna bywyd; ond yr oedd yn byw ymneillduaeth yn y cyfryw fodd, fel na allai y cydymffurfiwr mwyaf lai na'i hoffi. Er casau ei olygiadau, cerid ei ysbryd addfwyn, a'i gyfeillach ennillgar. Bu yn brofedigaeth lawer gwaith i fy meddwl i ei gyferbynu a'i gydlafurwr Morgans, o Fachynlleth, o herwydd yr annghyddarawiad oedd rhyngddynt. Yr oedd y ddau yn cydgyfarfod mewn egwyddorion, barn, a sel; ond yn dra gwahanol yn eu dull o weithio allan eu hegwyddorion. Yr oedd y gwr mawr o Fachynlleth yn nhanbeidrwydd ei dymer yn lladd ac yn llosgi ffordd y cerddai, ac yn digio llawer mwy nag oedd yn eu hargyhoeddi. Ond y gwr syml o Ddolgellau yn argyhoeddi mwy nag oedd yn ddigio. Yr oedd y naill yn dangos yn eglur ei fod yn ymosod o ddifrif ar ei wrthwynebwr, a bod yn ei fryd i chwalu ei holl amddiffynfeydd; ond y llall yn ymddangos heb na chleddyf na gwaewffon, ond gyda geiriau hamddenol a dull esmwyth, yn argyhoeddi ac yn ennill ei wrthwynebydd megys heb wybod iddo. Nid oedd ymosodiadau mwyaf effeithiol Mr. Jones ddim amgen na gofyniad caredig ar sail yr hyn a addefid gan ei wrthwynebwyr, ac felly ni theimlid, ond anfynych, ei fod ef yn wrthwynebwr. Yr oedd teimlad uwchafol y Parson, y Rector, a'r Deon yn pallu yn ei bresenoldeb ef, a derbynid ef fel brawd gan wyr yr urddau.

Yr oedd Mr. Jones yn Rhyddfrydwr goleuedig; ond nid hyny oedd yn tynu fy sylw, oblegid yr oedd llawer mor Rhyddfrydol ag yntau. Ond i mi yr ymddangosai yn neillduol yn ei fedr i ddystaw dynu o dan sylfaen caethiwed gwladol a chrefyddol, a hau had rhyddid yn y cyfryw fodd fel na allai yr arch orthrymydd gael achos i achwyn arno. Pe buasai ei