Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/227

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dull ef yn cael ei arfer yn fwy, diau y byddai mwy o dda yn cael ei wneyd, a llai o brofedigaethau yn cael eu dwyn.

Yr oeddwn bob amser yn edrych arno fel un ag yr oedd y frawdoliaeth weinidogaethol yn gysegredig iawn ganddo. Yr oedd yn anwylu yr holl frawdoliaeth, ac yn cael ei anwylu gan ei holl frodyr, heb un yn gallu edrych yn isel arno, na neb a'i hadwaenai yn ei gyfrif yn rhy uchel i nesu ato gyda hyder. Diau ei fod yn canfod rhagor rhwng brawd a brawd, ond nid rhagoriaethau swyddol, ond y swydd oedd sail ei frawdgarwch. Yr oedd ei lygad mor siriol, a'i law mor barod i'r naill frawd ag i'r llall. Digon tebyg ei fod yn credu etholedigaeth yn y pwnge hwn hefyd, ond nid oedd ei etholedigaeth ef yn cynwys gwrthodedigaeth. Nid wyf yn rhyfeddu ei fod yn credu nad oedd etholedigaeth Duw pob gras, yn golygu gwrthodedigaeth, o herwydd ni wyddai am deimlad felly yn ei fynwes ei hun. Yr oedd Mr. Jones yn nodedig yn ei frawdgarwch yn mhob man, gartref ac oddi cartref. Y mae yn hawddach bod yn frawdol a siriol wrth ymweled, nag wrth dderbyn ymwelwyr; ond cafodd pawb a gafodd gyfleusdra i ymweled a Chefnmaelan, ei gartref, brawf ei fod yn helaeth yn y gras o letygarwch. Nid pob amser ag y ceir llety y ceir ef gyda chariad. Ond yr oedd cartref Mr. Jones yn cael ei ddedwyddu a chariad, fel y teimlai y lletywr ei fod gartref.

Ni welais neb erioed yn fwy cyflawn yn llanw y cymmeriad o fod yn gydostyngedig a'r rhai iselradd. Yr oedd yn rhy fawr i beidio bod yn ostyngedig, ac yn rhy uchel i ddewis y lle uchaf. Nid gostyngeiddrwydd celfyddydol oedd yr eiddo ef, ond yr oedd mor naturiol a gostyngeiddrwydd plentyn. Yr oedd mor bell o fod yn wasaidd fel na theimlai yn wahanol mhresenoldeb pendefig, nag yn nghyfeillach y mwyaf cyffredin, pa un ai natur ai gras oedd fwyaf amlwg yn ei ostyngeiddrwydd, nid wyf am benderfynu, ond yr wyf yn sicr fod y naill yn mawrhau y llall, ac etto y naill megys yn ymgolli yn y llall.


Yn y cylch mwyaf adnabyddus o hono, yr oedd Mr. Jones yn cael ei barchu fwyaf. Nid poblogrwydd "gwr dyeithr" ydoedd yr eiddo ef, ond poblogrwydd gwr adnabyddus: a'r rhai mwyaf adnabyddus o hono a'i hoffai fwyaf. Yr oedd ei gyfeillach a'i weinidogaeth fel bara beunyddiol, yr hwn ni flinid arno, oddieithr fod ychydig wedi ei golli. Pe dywedid i mi fod rhyw rai heb fod yn hoffi Mr. Jones, dywedwn innau, nad oeddent iach, neu eu bod heb ei adnabod. Y mae