Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/228

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawer yn myned yn llai wrth gydnabyddu â hwynt, ond efe a fwyhai. Gallu mawr yw gallu dal ymgydnabyddiad.

Cefais gyfleusdra fwy nag unwaith, i sylwi ar fedr Mr. Jones i gyfryngu rhwng pleidiau ymrysongar. Cof genyf am un a gynghorai i beidio cyfryngu rhwng rhai a fyddai yn gyfeillion i ni, rhag eu gwneyd yn elynion; ond os cyfryngem, am i ni gyfryngu rhwng ein gelynion, o herwydd y byddem yn debyg o wneyd un blaid yn gyfeillion. Ond am Mr. Jones, nid oedd fawr o berygl iddo ef wneyd gelynion iddo ei hun; ac nid aml y byddai yn methu gwneyd eraill yn gyfeillion i'w gilydd. Er ei fod wedi gweled dyddiau cynhyrfus, ac iddo gael ei alw lawer gwaith i geisio gostegu terfysgoedd, etto ni chollodd ei nodwedd fel mab tangnefedd; ond hyd yn nod pan yn methu heddychu rhwng brodyr, gadawai argraff ar eu meddwl ei fod yn gwir ddymuno eu lles, ac mai dyn gwirionedd a heddwch ydoedd, ac nid dyn plaid. Y mae y ffaith fod heddwch wedi teyrnasu trwy gylch eang ei weinidogaeth ar amseroedd enbyd, pan oedd terfysgoedd yn ei chylchynu oddeutu, yn llefaru mwy nag y gall neb ysgrifenu, am ei allu i gadw heddwch a thangnefedd rhwng brodyr.

Ofnwyf fod fy llythyr wedi myned yn rhy faith eisoes; ond nis gallaswn ddywedyd llai, a dywedyd dim o gwbl. Nid wyf chwaith wedi nodi y pethau uchod, am fy mod yn meddwl mai yn y pethau hyn yr oedd ei brif ragoriaethau; ond o herwydd mai y pethau a nodais oedd wedi cael fy sylw i yn benaf.

Ydwyf &c

S Edwards

Machynlleth