Ba gawr, o debyg eiriau, Yn abl a eill ei chwblhau? Diau argyfyd rhyw gofion—bellach, O'i bwyllus gynghorion; Urddir teml Brithdir o'r bron, A'i lwch aur fel ei choron! ——GWALCHMAI.
ETTO.
Hen weinidog i'r Ion ydoedd—gŵr Duw Gŵr doeth ei weithredoedd ; Dyn cyflawn a gawn ar g'oedd, Pwy ablach i drin pobloedd? Iraidd fu ei holl gynghorion—a threfn Wrth raid fu yn Seion; Ni bu'i ail mewn helbulon, Cymmodai, distawai'r don. Cadarn yn ei farn a fu—a llewyrch Galluog yn Nghymru; Pregethodd, galwodd yn gu, Toau isel at Iesu. Tra Cader Idris, tra sisial—Wnion Ar fynwes yr ardal; Arhosa fel claer risial, Ei enw yn deg—byth yn dàl. ——IDRIS FYCHAN.
Am Cadwaladr y mae cydwylo—mawr, Meirion sy'n gofidio; Mae'n yngan nad man ango' Fydd oer dir ei feddrod o. Cenad Ner, gwir ladmerydd—fu y gŵr, Ni fu gwell arweinydd ; Un o'i fath mwyach ni fydd Yn mro enwog Meirionydd. Hyd ei arch ca'dd ei barchu—trwy fodd, Torf fawr ddaeth i'w gladdu, A dydd i'w anrhydeddu Ydoedd hwn, y dwthwn du. Llansilin—— R. DAVIES.