Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/236

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XI.

DYFYNIADAU ALLAN O BREGETH A DRADDODWYD YN NGHAPEL PENDREF, LLANFYLLIN, RHAGFYR 22, 1867, AR ACHLYSUR O FARWOLAETH Y PARCH. C. JONES,

GAN Y DIWEDDAR BARCH. D. M. DAVIES.

"Ni frysia yr hwn a gredo."

Yn y cyfnod rhwng marwolaeth yr Hybarch Jenkin Lewis, yn 1805, ac urddiad y Parch. Mr. Roberts (wedi hyny o Ddinbych) yma yn y flwyddyn 1810, arferai Mr. Jones, pan yn wr ieuange newydd ddechreu pregethu yn Llanuwchllyn, ddyfod i Lanfyllin yn fynych i gynnorthwyo yr eglwys Annibynol. Os da yr ydym yn cofio, dywedodd wrthym, ei fod yn pregethu yn fisol yma am rai blynyddau. Efe hefyd ydoedd y diweddaf a wrthwynebwyd yn gyhoeddus gan erlidwyr crefydd yn y gymydogaeth hon, a fuasai yn enwog am erlidwyr oddiar amser James Owen, William Jervis, John Griffiths, a Jenkin Lewis. Mae yn gofus gan rai o honoch am yr Hybarch C. Jones ar y maes cyfagos yn pregethu yn y cyfarfod blynyddol, pan ddaeth gwr o'r wlad heibio, ac a geisiodd aflonyddu ar y cwrdd, atal Mr. Jones i bregethu, a dirmygu a gwawdio'r gynnulleidfa am adael dyledswyddau a gorchwylion bywyd, i ddyfod i wrando ar y fath ffiloreg. Ni wnaeth y pregethwr na'r gwrandawyr un sylw o hono; ond ni chafodd ddiange yn ddigosp, canys o'r braidd y cyrhaeddodd adref, cyn iddo syrthio yn farw! Dyna y trydydd o erlidwyr Llanfyllin a fu farw yn sydyn, ac o dan amgylchiadau gresynus. Heblaw a nodwyd, yr oedd yr Hybarch Jones o Ddolgellau, yn y blynyddau diweddaf, yn ymweled a ni yn fynych. Yr oedd yn dda genym oll ei weled a'i glywed, ac y mae coffadwriaeth y cyfiawn hwn yn fendigedig yn ein plith.

Yn ol yr hyn a wyddom yn bersonol am dano, a'r hyn a glywsom ac a ddarllenasom yn ei gylch, credwn fod geiriau Esaiah, yn y gwahanol gyffeithiadau ac ystyron a roddir iddynt, yn bur gymhwysiadol i'w gymmeriad crefyddol a gweinidogaethol.

Mae cyfieithiad y Deg a Thriugain, "Ni CHYWILYDDIA yr hwn a gredo," yn dra chymhwysiadol ato. "Ni chywilyddiodd" ymuno a chrefydd a'i harddel o dan amgylchiadau anffafriol. Yr oedd ei rieni yn ffermwyr cyfoethog, ac yn