Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/237

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bobl barchus yn y gymydogaeth, yn ol tystiolaeth hen chwaer sydd yma yn bresenol, a anwyd yn yr un flwyddyn a'r Hybarch C. Jones yn Llanuwchllyn, ac a ddaeth at grefydd oddeutu yr un amser ag yntau yn yr un lle. Eithr dywed Margaret Jones (canys dyna enw y chwaer) nad oeddynt yn proffesu crefydd, er eu bod weithiau yn dyfod i "Hen Gapel" Llanuwchllyn. Yr oedd ei dad yn neillduol, nid yn unig yn ddibroffes o grefydd, ond dipyn yn ddibris o'r sobrwydd a'r difrifoldeb y mae'n ofyn gan ddynion. Yr oedd hela yn ddifyrwch mawr ar y pryd i amryw yn nghymydogaeth Llanuwchllyn, ac yr oedd yntau yn cymeryd rhan weithgar iawn yn y cyfryw ddifyrwch, gan ei ystyried, efallai, yn adfywiad i gorff ac yn adloniad i feddwl. Siaradai, gan hyny, i raddau yn gellweirus am ymddygiad ei fab ieuange yn gogwyddo at fod yn ddifrifol, ac yn ymboeni yn nghylch crefydd y capel; (canys y mae crefydd y capelwyr, rywsut, yn mhob oes, yn fwy annghydweddol a hela, pysgota, dawnsio, a chwareuon o bob math, na chrefydd y Llanwyr), ac o'r braidd na ddywedai, y byddai yn well ganddo weled y bachgen yn troi allan i hela, nag edrych arno yn myned i gyfeillach y crefyddwyr yn yr "Hen Gapel." Yr oedd y ffaith fod y rhieni yn ddibroffes, yn peri i'r mab gwylaidd deimlo yn swil i broffesu crefydd; ac yr oedd ymadroddion digrifol ei dad, hyd yn nod pan yn ymddyddan am bethau cysegredig, yn brofedigaeth iddo oedi i'w harddel. Ymddengys, fodd bynag, na fu уц hir cyn tori y ddadl a gorchfygu ei swildod. Cafodd gymhorth i ymwasgu a'r dysgyblion gan awel o adfywiad crefyddol oedd yn chwythu trwy yr ardal, yn ngrym yr hon y darfu iddo ef ac amryw eraill o'i gyfoedion, amlygu yn gyhoeddus nad oeddynt yn "cywilyddio" arddel Mab Duw ac ufuddhau i'w orchymynion.

Nid oes amheuaeth genym fod rhieni annghrefyddol yn rhoddi achlysur i'w plant "gywilyddio " gwneyd proffes gyhoeddus o grefydd ger eu bron; ac y mae gan y cyfryw gyfrifoldeb arswydus i'w roddi am eu hymddygiad: oblegid y maent mewn rhyw ystyr yn tebygu i'r rhwystrwyr y cyfeirir atynt yn y geiriau, "A phwy bynag a rwystro un o'r rhai bychain hyn, a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr." Os yw y darllenydd mor anffortunus a bod yn blentyn i rieni diweddi, neu yn byw mewn teulu annghrefyddol, na fydded iddo o herwydd hyny fod yn rhy swil i "arfer duwioldeb gartref;" eithr yn