Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/238

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hytrach, efelyched Abiah bach yn nhy Jeroboam, Cadwaladr Jones, a channoedd o bobl ieuainge cyffelyb iddynt, gan gofio geiriau'r Iesu, "Pwy bynag a fyddo gywilydd ganddo fi a'm geiriau yn yr odinebus a'r bechadurus genhedlaeth hon, bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddel yn ngogoniant ei Dad, gyda'r angylion santaidd."

"Ni chywilyddiai" ymgymeryd a phregethu yr efengyl, ac ymgyflwyno i'r weinidogaeth Ymneillduol. Efe oedd yr unig fab, ac yr oedd ei rieni yn awyddus iawn am iddo aros gartref gyda hwy, a'i ddwyn i fyny yn amaethydd parchus a chyfoethog. Am hyny, yr oeddynt yn benderfynol yn ei erbyn i ymwneyd dim a phregethu, a gwrth-annogent ef yn fawr i ymroddi i'r weinidogaeth. Nis gwyddom pa un ai anfoddlonrwydd i'w golli oddicartref, ai yr ystyriaeth nas gallasai ymgyfoethogi a "chymeryd byd da yn helaethwych beunydd" yn y weinidogaeth Ymneillduol, oedd yn cymhell yr hen bobl i ymddwyn felly; efallai fod y naill a'r llall o'r ystyriaethu hyn yn dylanwadu ar eu meddyliau. Diau fod y mab hefyd wedi eistedd i lawr, bwrw y draul, a chanfod mai nid maes gobeithiol iawn i ymgyfoethogi yn y byd ydoedd y weinidogaeth; ac yn ddiamheu y gwyddai fod dynion o ysbryd bydol a syniadau daearol yn arferol, oddiar dyddiau yr apostolion, o gyfrif gweinidogion ffyddlon yr efengyl "fel ysgubion y byd a sorod pob dim." Ond yn ngwyneb y cwbl, teimlai y gwr ieuange rywbeth yn debyg i Paul pan ddywedodd, "Nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr genyf fy einioes fy hun, os gallaf orphen fy ngyrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw." Credai mai nid tymhorol, ond ysbrydol a nefol, oedd gwobrwyon y weinidogaeth Gristionogol; a barnai fod "angenrhaid wedi ei osod arno, ac mai gwae fyddai iddo oni phregethai yr efengyl." Ymwrolai, gan hyny, ac elai o gwmpas y wlad yn ysbryd yr apostol, a dywedai wrth y werin, yn ei ymddygiad, megys yntau, “Hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu yr efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Nghymru. Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist, oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a'r sydd yn credu."

Gallwn ddeall paham y mae amaethwyr cyfrifol a masnachwyr cyfoethog, nad ydynt yn gwneyd proffes o grefydd nac yn cymeryd un drafferth yn ei chylch, yn wrthwynebol i'w meibion ymgymeryd a'r weinidogaeth yn mysg yr Ymneill-