duwyr. (Mae llawer o honynt yn ymdrechu eu goreu i'w dwyn i fyny i weinidogaeth yr Eglwys Sefydledig, o herwydd rhesymau eglur). Eithr mae yn anesboniadwy bron paham y gwelir can lleied o feibion yr un dosbarth mewn cymdeithas, ag sydd yn ymddangosiadol yn grefyddwyr gweithgar, bywiog, a llafurus, yn ymgysegru i'r weinidogaeth. Ychydig, mewn cyfartaledd, a ganfyddir o'r cyfryw yn ymgyflwyno i'r weinidogaeth yn ein mysg. Mae yn agos yr oll o'n gweinidogion a'n myfyrwyr yn dyfod oddiwrth y dosbarth gweithiol ac o blith y tlodion, tra y gwelir yn fynych dri, neu bedwar, neu bump o feibion yn cael eu dwyn i fyny yn mhob parth o'r wlad, gan rieni o'r dosbarthiadau cyfoethog yn ein heglwysi, heb gynifer ag un o honynt yn ymgyflwyno i'r weinidogaeth Gristionogol. Dygir hwynt oll i fyny yn ffermwyr, neu yn fasnachwyr, neu i ryw alwedigaeth arall a dybir yn ennillfawr. Dywedir fod amryw o honynt yn cael eu digaloni i ymaflyd yn y weinidogaeth gan y syniad cyfeiliornus, nad yw gweinidogion ddim yn annibynol yn eu hamgylchiadau. Y gwir yw, nid oes un dosbarth yn fwy annibynol yn y wlad na gweinidogion yr Ymneillduwyr. Tra mae y ffermwyr yn cael eu gyru yn groes i argyhoeddiad eu cydwybodau, ar ddydd yr etholiad, o flaen eu tirfeddianwyr; a'r masnachwyr yn ofni pleidleisio dros y naill na'r llall o'r ymgeiswyr, rhag digio eu cwsmeriaid, gwelir y gweinidogion yn gweithredu yn rhydd ac annibynol, ac yn gosod urddas ar ddynoliaeth yn nghanol yr ymdrechfa. Ac nid oes un yn fwy parchus, ac yn sicrach o faes llafur a chynnaliaeth iddo ei hun a'i deulu, na gweinidog da i Iesu Grist." Mae hyn mor amlwg ac anwadadwy, fel nad oes eisiau ond eu crybwyll yn unig. A phe na fyddai felly, a yw ein teuluoedd cyfoethog a chyfrifol mor amddifad o ysbryd hunanymwadu er mwyn yr efengyl, ac mor brin o ffydd yn Rhagluniaeth Duw, fel y dianogant eu meibion, ac yr annghynghorant eu merched a'u chwiorydd, i ymgysegru i'r cylch gweinidogaethol? Os ydynt, dymunwn eu cyfeirio at gân Hannah, (1 Sam. ii. 1-11), yr hon a roddodd, nid mab o dri, neu bedwar, neu bump o feibion, ond ei hunig fab, "i'r Arglwydd holl ddyddiau ei einioes," gyda pherffaith gydsyniad ei dad: canys "Elcanah a aeth i Ramah i'w dy; a'r bachgen a fu weinidog i'r Arglwydd ger bron Eli yr offeiriad." Gallai Mr. Jones hefyd ddywedyd fel Paul, "nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist."