barodd i Mr. Jones gael mwy o enwau drosto na Mr. Morgan ydoedd, fod rhywbeth yn ei lais yn debyg i'r eiddo Mr. Pugh, tra yr oedd Mr. Morgan y pryd hwnw, yn enwedig, yn llefaru yn gyflym iawn, ac yn annealladwy i lawer. Yr oedd yr holl eglwysi a fuasent dan ofal Mr. Pugh yn cyduno yn ngalwad Mr. Jones i fod yn fugail arnynt; sef, Rhydymain, Brithdir, Dolgellau, a'r Cutiau. Yr oedd Llanelltyd a'r Ganllwyd wedi sefydliad yr eglwys yn y dref, yn dyfod yno i gymundeb, yn nghyd ag Islaw'r-dref.
Er fod dymuniad cryf yn y gwahanol gynnulleidfaoedd hyn, ar i'r gweinidog dewisedig ganddynt ddyfod i'w plith yn ddioed, etto, llwyddodd ef i gael ganddynt adael iddo aros am rai misoedd yn hwy yn yr Athrofa, i yfed ychydig yn ychwaneg o ffrydiau melus dysgcidiaeth, cyn dechreu o hono ar ei waith pwysig yn ei gylch newydd. Yn mysg papurau Mr. Jones cawsom lythyr a ysgrifenodd efe yn y cyfwng hwnw at Robert Pugh, Perthi-llwydion, Brithdir; a chan ei fod yn dangos ychydig o agwedd meddwl ei ysgrifenydd ar y pryd, ni a'i rhoddwn ef yma.
Anwyl Frawd,
Yr wyf yn anfon atoch hyn o linellau, gan obeithio eich bod
yn iach fel yr wyf finnau yn bresenol. Bu dda genyf dderbyn y
llythyr a anfonasoch ataf. Yr wyf wedi bod yn y cyfarfod yn
Llanfyllin. Ni a gawsom gyfarfod cysurus iawn yno, ac yr wyf
yn hyderu ei fod o les i fy enaid. Nid oes genyf ddim rhyfedd i'w
fynegu i chwi. Mae y dref a'r wlad o'i chylch yn gyffredin o iach;
etto yr wyf yn parhau i weled amryw o'm cyd-ddynion yn cael eu
cludo i'r bedd er pan ydwyf yma. Bu yn chwith hynod genyf glywed
am farwolaeth Hugh Edwards, o Lanyrafon, yn ymyl Towyn. Ond
er mor aml y rhybuddir fi, etto, teimlo fy hun yr ydwyf yn gwisgo
pob effeithiau dymunol oddiar fy meddwl yn fuan. O wythnos i
wythnos mae yr, amser yn nesáu i mi ddyfod tuag adref os byddaf
byw. Byddaf yn rhyfeddu yn fawr weithiau, os gwelir fi yn ceisio
cadw lle fy anwyl frawd (gynt) Hugh Pugh. Gallaf ddywedyd yn
hawdd, fy mod yn ystyried fy hun yn analluog iawn i'r gorchwyl
mawr ei bwys. "Un a gymerir a'r llall a adewir." Nid oedd yr
Arglwydd, yn ddiau, heb olwg ar un i ddyfod i'ch plith fel eglwysi,
pan yn ei gymeryd ef ymaith. Nid oes genyf yn awr ond gorchymyn
fy hunan i ofal eich gweddïau. Pan yn absenol oddiwrth ein gilydd
gallwn anfon gweddïau tua'r nef dros ein gilydd. Dywedwch wrth
fy mrodyr yn eich amgylchoedd, fy mod yn cofio atynt i gyd, ac yn