"Ni chywilyddiai" arddel a chefnogi ei egwyddorion fel Ymneillduwr. Yr oedd bob amser gyda'r blaenaf yn cefnogi mesurau o duedd i sicrhau eu hawliau gwladol, eu hiawnderau bwrdeisiol, a'u breintiau crefyddol, i'r Ymneillduwyr, fel y gwelir yn y Dysgedydd yn ystod yr amser y bu dan ei olygiaeth. Cymerodd ran weithgar o blaid diddymiad Deddfau Prawf a Bwrdeisiaeth, ddeugain mlynedd yn ol. Cefnogodd yn fywiog Ryddfreiniad y Pabyddion; daeth allan a'i holl egni dros Fesurau Cofrestriad o Enedigaethau, Priodasau, a Marwolaethau; a Gweinyddiad o Briodasau gan yr Ymneillduwyr, yn 1836. A bu yn gefnogwr ffyddlon a chyson i egwyddorion ac amcanion Cymdeithas Rhyddhad Crefydd, o'i ffurfiad, yn 1844, hyd derfyn ei oes. Cawsom brawf o'i sel dros y Gymdeithas dan sylw droion, nid yn unig mewn gair, ond hefyd mewn gweithred. Oddeutu saith mlynedd a haner yn ol, ymwelsom ni a'r Parch. W. F. Galloway, Birmingham, â threfydd Maldwyn a Meirion, dros y Gymdeithas'; a phan gyrhaeddasom Ddolgellau, nid oedd y parotoadau disgwyliedig, fel yn y lleoedd eraill, wedi eu gwneyd. Pan welodd yr Hybarch Cadwaladr Jones hyny, ymddangosai yn ofidus iawn; ac er ei fod wedi rhoddi i fyny ei ofal gweinidogaethol yn y dref i'w olynydd, y Parch. Thomas Davies, dywedodd wrthym na chawsem ymadael heb gael cyfleusdra i anerch y bobl ar amcanion ein hymweliad. Sicrhaodd fenthyg capel yr Annibynwyr i ni, anfonodd allan y town crier, a thrwy ei ymdrech ef a'r Parch. Henry Morgan, a chydweithrediad amryw gyfeillion eraill i'r Gymdeithas, cafwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf bywiog, os nid mor luosog, a gawsom ar y daith hono. Y tro diweddaf yr ymwelsom a Dolgellau, ar ran y Gymdeithas, oedd y waith olaf i ni weled yr hybarch batriarch. Yr oedd ar ei glaf wely, a'r "clefyd i farwolaeth" wedi ymaflyd ynddo. Dywedai fod yr achos oeddwn yn ei gylch yn bwysig, ac yn sicr o lwyddo, ac amlygai ei ofid am nad allai ddyfod gyda ni i'r cyfarfod; eithr fe wnaeth yr hyn a allodd ar y pryd i'r Gymdeithas, sef ceisio gan ei fab i fyned i'w logell a rhoddi y swm a arferai danysgrifio at y Gymdeithas. Edrychai arni, nid fel rhywbeth Seisnig, ond fel sefydliad a ddylai gael cydymdeimlad y Cymry yn anad neb, y rhai ydynt oll bron yn proffesu ei hegwyddorion. Ystyriai gefnogi ei hamcanion, yn rhan o ddyledswyddau gweinidogaeth yr efengyl. Tra na ddywedai ddim yn erbyn i'w frodyr yn y weinidogaeth i dreulio rhan o'u hamser i gystadlu am y Gadair,
Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/240
Prawfddarllenwyd y dudalen hon