Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/247

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaeth, yn dyweyd, ei fod yn groes i'r wlad gael ei haflonyddu a'i chynhyrfu gan y cyfryw ydynt o ddifrif yn anog eu cydddeiliaid i gydymdrechu i dori y cysylltiad sydd rhwng y gallu offeiriadol a'r gallu gwladol, fel na byddo y blaenaf yn medru defnyddio yr olaf mwyach i gyfyngu ar ein hawliau dinasol a'n hiawnderau crefyddol. Tystiolaethodd ein Ceidwad bendigedig i'r gwirionedd ger bron Pilat, ac fe'i seliodd a'i waed. Gwnaeth y merthyron yr un modd, pe amgen, pa le y buasai ein rhyddid gwladol a chrefyddol ni heddyw. Os rhoddasant eu bywyd i brynu i ni y bendithion hyn, ni ddylem. rwgnach aberthu tipyn o esmwythder ac ychydig gysylltiadau cyfeillgarol, er mwyn eu hamddiffyn, eu heangu, a'u trosglwyddo i lawr i'n holafiaid. Cofier y wae a gyhoeddwyd ar y rhai sydd "esmwyth arnynt yn Seion," ac ystyrier y "felldith chwerw" a daranwyd uwchben Meroz, am beidio dyfod allan i gynnorthwyo'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn. "Ein tadau," y rhai a ymdrechasant yn ddigywilydd a diflino o blaid iawnderau yr Ymneillduwyr yn ystod blynyddau boreuol y canrif hwn, "pa le y maent hwy?" Maent o un i un, oll bron, bellach, wedi eu claddu; ond na wawried byth y dydd ar ein hoffus wlad, pan fyddo eu sel santaidd dros eu hegwyddorion, a'u brwdfrydedd duwiol, yn eu hamddiffyn a'u lledaenu, yn cael eu claddu gyda hwy.



ARGRAFFWYD YN SWYDDFA'R "TYST CYMREIG," LIVERPOOL.