dymuno cael fy nghofio ganddynt o flaen gorseddfaingc y gras. Peidiwch ag addaw byd da ar grefydd trwy fy nyfodiad i atoch, os caf fyw i ddyfod, rhag i chwi gael eich siomi. Mae'r llwyddiant yn llaw Duw yn unig. Bellach frodyr, byddwch wych. Byddwch berffaith, diddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw y cariad a'r heddwch a fyddo gyda chwi.
Robert Pugh, Perthi-llwydion.
EI URDDIAD YN NOLGELLAU.
Yn nechreu y flwyddyn 1811, gadawodd Mr. Jones yr Athrofa, dychwelodd i'r Deildref-uchaf, ac yn nechreu y gwanwyn hwnw dechreuodd lafurio yn Nolgellau a'r amgylchoedd; a phan ddaeth dydd Iau Dyrchafael, Mai 23, 1811, neillduwyd ef yn gyhoeddus i'r weinidogaeth yn Nolgellau. Dewiswyd Dolgellau i gynnal y cyfarfod pwysig hwnw am fod y dref yn ganolog i'r gwahanol gynnulleidfaoedd ymgasglu yn nghyd. Y gweinidogion a gymerasant ran yn y gwasanaeth, neu a oeddynt yn bresenol ar yr achlysur, oedd y rhai canlynol:—George Lewis, Llanuwchllyn; Benjamin Jones, Pwllheli; John Roberts, Llanbrynmair; James Griffiths, Machynlleth; William Hughes, Dinas; William Jones, Trawsfynydd; John Lewis, Bala; David Roberts, Llanfyllin; James. Davies, Aberhafhesp; William Williams, Wern; a Jonathan Powell, Rhosymeirch. Ni lwyddasom i gael manylion y cyfarfod, a pha ran o'r gwaith a gyflawnai y naill a'r llall o'r brodyr enwog a ddaethant iddo. Ond gallwn fod yn dra sicr fod presenoldeb y fath Henuriaid yn llawer o galondid i Mr. Jones y diwrnod hwnw ac wedi hyny hefyd, yn nghyflawniad. ei swydd anrhydeddus yn mysg y cynnulleidfaoedd bychain y gweinyddai iddynt. Bychain a ddywedasom? Ie, bychain. Dyma rif yr aelodau pan ddaeth Mr. Jones i Ddolgellau:— Rhydymain, 23; Brithdir, 34; Dolgellau, yn cynnwys Islaw'r dre, Llanelltyd, a'r Ganllwyd, 39; Cutiau, 17; y cyfan gyda eu gilydd, 113. Dyna sefyllfa yr eglwysi pan gyflwynodd gwrthddrych y cofiant hwn ei hun i waith y weinidogaeth yn