Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r Cymry droi eu cefnau arnynt am byth. Iddynt hwy eu hunain, mewn rhan, y mae y llanwyr i briodoli dechreuad, cynnydd, a goruchafiaeth Ymneillduaeth yn y Dywysogaeth, yn y ganrif ddiweddaf, a dechreuad yr un bresenol. Nid oedd Ymneillduwyr egwyddorol mor lluosog yn y dyddiau hyny ag ydynt yn y dyddiau hyn. Newyn am fara y bywyd oedd ar ein tadau, a'r offeiriaid yn rhoddi iddynt geryg i dori y newyn hwnw; gan hyny, nid oedd ganddynt ddim i'w wneuthur ond myned i'r lleoedd y gallent gael gwleddoedd yr efengyl yn eu blas, ac yn eu holl gyflawnder.

Oddeutu 46 o flynyddoedd cyn geni gwrthddrych ein cofiant y dechreuodd Methodistiaeth yn Nghymru, trwy lafur caled a hunanymwadol Mr. Howell Harries, o Drefecca, a'r Parch. Daniel Rowlands, o Langeitho. Dau ŵr oedd y rhai hyn ag enaint Duw arnynt, ac Ysbryd Duw ynddynt, ac wedi eu gwisgo a nerth o'r uchelder. Aethant allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau, y pentrefi a'r dinasoedd, y cymoedd a'r mynyddau, ac yr oedd llaw yr Arglwydd gyda hwynt, a llwyddiant mawr ar eu gweinidogaeth. Cafodd gogledd Cymru, yn gystal a'r deheudir, ran o'u sylw a'u llafur, a sefydlwyd cymdeithasau crefyddol mewn llawer iawn o ardaloedd yn y parthau gogleddol hyn. Yn raddol, cyfododd yr Arglwydd gynnorthwywyr lawer i gychwynwyr y Diwygiad, a rhai o honynt yn ddynion hynod mewn gwybodaeth, duwioldeb, a thalentau. Yr oedd y gwyr hyn, yn gystal a Harries a Rowlands, yn llawn o ysbryd cenhadol. Ymwelent a phob parth o'r wlad, ac yr oedd awelon iachawdwriaeth yn cydgerdded a hwynt, a thywalltiadau o'r Ysbryd Glân yn bedyddio y cynnulleidfaoedd a ymdyrent i'w gwrando; ac felly fe lwyddodd y gwaith, ac fe ddechreuodd annuwioldeb, o bob math, grynu, gwelwi, a gwywo, ger bron disgleirdeb tanllyd gogoniant yr Arglwydd yn y weinidogaeth.

Heblaw yr ychain banawg a ddeuent yn eu tro o'r dehau i ymweled a'r gogledd, cyfodwyd dynion galluog, talentog, a llawn o dân dwyfol yn y parthau hyn hefyd, i ddwyn yr achos yn mlaen; megys, Mr. Robert Roberts, Clynog; Mr.