John Jones, Edeyrn; a'r diweddar areithiwr hyawdl John Elias; a'r ysgrifenwr galluog Thomas Jones, o Ddinbych. Nid oedd y gwyr a blanasant yr eglwysi Methodistaidd, ac a'u dyfrhasant am faith flynyddoedd wedi hyny, mor fanwl yn ymgadw o fewn cylch penodol wrth draethu eu syniadau ar byngciau yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, ag y daeth eu dilynwyr i wneyd felly, mewn blynyddoedd diweddarach. Enill eneidiau at Grist oedd pwngc mawr y dosbarth cyntaf, a'r ail, o bregethwyr y Trefnyddion; gan ofalu, ar yr un pryd, na wyrent yn mhell oddiwrth ganol ffordd y Datguddiad dwyfol. Rhodd bennaf y Brenin Mawr i'r Trefnyddion Calfinaidd yn ngogledd Cymru, yn rhestr eu pregethwyr, oedd y Parch. Thomas Charles, o'r Bala. Bu y gwr doeth ac efengylaidd, a'r ysgolhaig rhagorol hwnw, yn un o'r prif offerynau a ddefnyddiodd Duw i oleuo ac i fendithio siroedd y gogledd. Teithiodd a phregethodd lawer iawn; sefydlodd ysgolion dyddiol a Sabbothol trwy ranau helaeth o'r wlad; bu yn foddion i ddwyn digonedd o Feiblau i gyrhaedd y werin; ysgrifenodd lawer iawn, a'r cyfan ar bethau buddiol, ac mewn iaith goeth, a chyda chwaeth bur; ac ni chyfododd etto yr un ysgrifenydd Cymreig yn rhagori arno ef.
Bu y Methodistiaid, yn hir iawn, yn ceisio glynu wrth Eglwys Loegr. Gweinidogion wedi eu hurddo yn yr Eglwys hono a weinyddent yr ordinhadau efengylaidd yn eu mysg, am oddeutu deg a thriugain o flynyddau wedi eu cychwyniad: ond, yn raddol, aethant bellach bellach oddiwrth y sefydliad gwladol; ac, yn y flwyddyn 1811, urddasant weinidogion o'ut plith eu hunain, i weinyddu yr ordinhadau; ac felly llwyrymadawsant a'r llanau. Digwyddodd hyny ryw fis o amser ar ol i Mr. Cadwaladr Jones gael ei ordeinio yn Nolgellau; felly yr oedd ef oddeutu yr un oed, fel gweinidog, a'r gweinidogion cyntaf a neillduwyd gan y Methodistiaid; ond yr oedd y corff Trefnyddol, erbyn hyn, yn Enwad cryf a dylanwadol iawn yn ngogledd Cymru. Yn ddiweddarach na'r Trefnyddion Calfinaidd y daeth y Bedyddwyr yn Enwad pwysig yn siroedd y gogledd, er eu bod yn hen, yn gryfion, a