Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddysgyblaeth eglwysig yn ol rheolau y Testament Newydd; ac nid yn eu dwylaw hwy yr oedd yr awdurdod i dderbyn aelodau, ac i'w diarddel, fel y mae yn mysg amryw o enwadau Henaduriaethol.

Bu Morgan Llwyd, o Wynedd yn llafurio yn effro ac egnïol yma yn foreu. Felly hefyd y bu Walter Cradoc; Vavasor Powell; ac Ambrose Mostyn. Cafodd y Gogleddwyr gryn dipyn o lafur Henry Morice, a James Owen; a bu Hugh Owen, o Fronyclydwr, yn cerdded oddiamgylch, gan bregethu yr efengyl a gwneuthur daioni, ar hyd a lled y wlad hon am 37 o flynyddoedd, a'i fab, John Owen, am dymhor byr ar ei ol. Henry Williams, o'r Ysgafell, a fu hefyd yn llafurus a defnyddiol iawn, fel cynnorthwywr i Hugh Owen. Yr oedd gan y gwyr hyn lawer o gynnulliadau dan eu gofal yma a thraw, a'r rhan amlaf o honynt yn mhell oddiwrth eu gilydd. Yr oedd y ffyrdd yn eirwon, a'u teithio yn orchwyl llafurfawr. Yr oedd yr Eglwyswyr a'r Uchelwyr yn elynion trwyadl iddynt. Dioddefasant lawer; ond bu llaw yr Arglwydd o'u plaid, a gwelsant raddau o lwyddiant ar eu hymdrechion, a gorphenasant eu gwaith. Cyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd ychydig o Annibynwyr yn cydgyfarfod yn y lleoedd canlynol: sef, Bronyelydwr, Dolgellau, Bala, Llanbrynmair, Trefeglwys, Llanllugan, y Drefnewydd, y Pantmawr, Llanfyllin, Gwrexham, cymmydogaeth Caergwrle, Newmarket, Dinbych, Pwllheli, Capel Helyg, ac ychydig fanau eraill mae yn dra thebygol. Ffrwyth ymdrechiadau y gwyr hunanymwadol y cyfeiriwyd atynt oedd y cynnulleidfaoedd hyny; ac y mae y nifer luosocaf o honynt yn aros hyd yr awr hon.

Nid ymddengys i neb o gyffelyb feddwl i Hugh Owen. gyfodi yn y parthau hyn, nes y daeth y Parch. Lewis Rees i weinidogaethu yn Llanbrynmair. Yr oedd y gwr da hwnw yn llawn o ysbryd cenhadol. Teithiodd lawer i bregethu yr efengyl yn Meirion, Arfon, Mon, Dinbych, a Fflint, a llafuriodd lawer yn Maldwyn, heblaw yn ardal Llanbrynmair. Efe a ddechreuodd yr achos crefyddol yn Llanuwchllyn; ac efe