Annibynol. Gallem gyfeirio at lawer o fanau fel profion diamheuol o'r hyn ydym yn ei ddywedyd.
2. Bu yr Annibynwyr yn rhy hwyrfrydig i wneyd cyfiawnder a'r Ysgol Sabbothol ar ei chychwyniad mewn llawer of ardaloedd, a bu hyny yn anffafriol iddynt.
3. Yr oeddynt yn cario y syniad a annibyniaeth eglwysig yn rhy bell; oblegid yr oedd eu syniadau ar y pen hwn yn rhwystr iddynt ymuno, fel un gwr, mewn pethau cyhoeddus a chyffredinol a berthynent i'r enwad; megys, adeiladu addoldai ac ysgoldai a thalu am danynt. Nid ydym yn credu fod yr Egwyddor Annibynol o lywodraeth eglwysig yn milwrio yn y mesur lleiaf yn erbyn y cydweithrediad perffeithiaf mewn achosion cyhoeddus a chyffredinol a berthynant i'r enwad. Ond nid yw y mater hwn wedi cael ei ddeall a'i deimlo etto fel y dylai.
4. Yr oedd amryw o'r hen gynnulleidfaoedd yn rhoddi llawn digon o bwys a gormod hefyd, ar barchusrwydd y gynnulleidfa o ran cyfoeth a safle urddasol mewn cymmydogaeth. Mae tuedd mewn teimlad felly i beri i eglwys esgeuluso y tlodion sydd o'i hamgylch. Prin y gellir dywedyd fod hwn yn bresennol, yn ddiffyg perthynol i'r Annibynwyr; ond yr oedd gynt.
5. Yr oedd rhyw fawrfrydigrwydd meddyliol yn perthyn i lawer o hen weinidogion yr enwad, fel nad oedd cael dynion. yn aelodau o'r eglwysi Annibynol ond ail neu drydydd peth yn eu golwg. Yr oeddynt hwy yn foddlon os ceid y bobl at Grist. Nid ydym yn nodi hwn fel bai ynddynt. Pell ydym. oddiwrth hyny. Teimlad ardderchog oedd hwn, a cheir gweled hyny yn niwedd y byd. Ond cymerwyd mantais arno, gan bobl mwy sectol na hwy, i chwyddo rhengau enwadau eraill. Dynion mawrfrydig felly oedd Lewis Rees; Richard. Tibbot; a Benjamin Jones, Pwllheli, ac eraill allasem enwi.
6. Prin yr ydym yn credu ddarfod i'n tadau roddi y sylw ar feithriniaeth a ddylasent i blant proffeswyr crefydd. Credent hwy, yn eithaf priodol feddyliem ni, mai proffeswyr ffydd yn Mab Duw, a'r rhai hyny yn byw yn addas i'r efengyl, sydd i fod yn aelodau eglwysig dan y Testament Newydd, ac nad