Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oes neb wedi ei eni yn aelod yn yr eglwys, trwy rinwedd ei gysylltiad a rhieni crediniol; ond ni allwn gydweled a hwy fod plant yr aelodau, oblegid hyny, i gael eu cau allan o'r cyfeillachau crefyddol, ac i gael eu hymddifadu o'r addysgiadau a geir ynddynt, fel y gwnai llawer o'r eglwysi Annibynol gynt. Yr oedd yr ymddygiad hwn at y plant yn golled i'r rhai bychain, yn golled i'r gynnulleidfa, yr enwad, ac achos crefydd yn gyffredinol. Y mae dwyn y plant i fyny wrth droed allor Duw yn y cysegr, yn hollol gyson, feddyliem ni, a syniadau yr Annibynwyr am aelodaeth eglwysig.

7. Yr ydym yn barnu hefyd, er bod ein hen weinidogion yn ddarllenwyr diwyd, yn astudwyr trwyadl, ac yn rheolaidd a boneddigaidd yn eu holl symudiadau, eu bod ar yr un pryd, yn ddiffygiol i raddau go helaeth yn y cymwysderau oedd yn angenrheidiol i wneuthur argraff ddofn a pharhaol ar feddyliau y werin. Yr oeddynt yn athrawiaethwyr manwl; profent bob peth drosodd a throsodd drachefn, a chymwysent eu hathrawiaeth at feddyliau proffeswyr a gwrandawyr, mewn ffordd dra rhesymol; ond yr oeddynt yn ddiffygiol mewn tân, nerth drychfeddyliau, a hywadledd ymadrodd. Yr oedd ambell un yn eu plith yn eithriad i'r rheol hefyd; megys y Parch. Hugh Pugh, o'r Brithdir, a rhai eraill feallai; ond eithriaid oeddynt, ac anaml y ceid hwynt. Diau fod y Dr. Lewis; Mr. Hughes, o'r Dinas; Mr. Jones, Penstryd; Mr. Jones, Pwllheli; Mr. Jenkyn Lewis; Mr. Jones, Newmarket; Mr. Griffiths, Caernarfon, ac eraill, yn bregethwyr da a sylweddol dros ben; er hyny, mae yn eithaf cywir eu bod yn ddiffygiol mewn amryw o bethau pwysig a defnyddiol a berthynent i lawer o brif bregethwyr rhai o'r enwadau eraill. Mr. Williams, y Wern, a fedrai bob amser gymeryd gafael yn holl galon cynnulleidfa; ond nid ydym yn cofio am neb ond efe a Mr. Everett, o Ddinbych, a allai wneuthur hyny yn yr adeg yr oeddym yn fachgenyn.

Mor bell ag y gallwn ni gael allan, rhywbeth yn debyg i'r darluniad uchod oedd ansawdd a sefyllfa crefydd yn ngogledd Cymru pan ddechreuodd yr Hybarch Cadwaladr Jones ar waith pwysig y weinidogaeth yn ardaloedd Dolgellau.